Prentis Cogydd
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Ydych chi’n chwilio am swydd newydd?
Dewch i gychwyn ar daith newydd gyffrous o fewn ein tîm cegin fel prentis cogydd!
Rydym yn chwilio am bobl sydd ag angerdd am fwyd a choginio i ymuno â’n tîm o gogyddion sydd wedi hen ennill eu plwyf i sicrhau bod ein gwesteion yn cael profiad 5*.
Mae’r Quay Hotel & Spa yn cynnig cyfradd gystadleuol iawn o gyflog, cyfleoedd hyfforddi a datblygu a chyfle i weithio gyda thîm o gogyddion sydd wedi hen ennill eu plwyf ac sy’n brofiadol, gan ein gwneud yn lle gwych i weithio.
Os ydych yn teimlo eich bod yn barod am her newydd yna hoffem glywed gennych
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd hefyd yn ofynnol i Brentis Cogydd ymgymryd â'r holl ddyletswyddau rhesymol a neilltuwyd gan y Prif Gogydd.
Yn benodol, byddwch yn gyfrifol am gyflawni'r tasgau canlynol i'r safonau uchaf:
- Cynorthwyo i baratoi, coginio a chyflwyno bwyd i'r safon uchaf
- Gwasanaeth i Gwsmeriaid o'r safon uchaf
- Cydymffurfio â rheolau Iechyd a Diogelwch
- Cwblhau pob agwedd ar y rhaglen brentisiaeth
- Gweithio amrywiaeth o shifftiau gan gynnwys yn gynnar yn y bore, gyda'r nos ac ar benwythnosau
Beth yw'r sgiliau dymunol?
I lenwi’r rôl hon yn llwyddiannus, dylech gynnal yr agwedd, yr ymddygiad, y sgiliau a’r gwerthoedd sy’n dilyn:
- Agwedd gadarnhaol
- Sgiliau cyfathrebu da
- Cynnig Gwasanaeth i Gwsmeriaid o'r safon uchaf
- Y gallu i weithio ar eich pen eich hun neu mewn timau
- Y gallu i ymdrin ag ymholiadau mewn modd proffesiynol a chwrtais
Beth yw'r rhinweddau personol dymunol?
- Angerdd am fwyd a choginio
- Parodrwydd i ddysgu
- Gallu i beidio cynhyrfu pan o dan bwysau.
- Y gallu i weithio mewn amgylchedd prysur
Math o Swyddi:
Llawn amser
Cyflog:
Cystadleuol
Sut i wneud cais
Ebostiwch eich CV a’ch llythyr egurhaol i chef@quayhotel.co.uk and Lauren.porter@quayhotel.co.uk
Manylion Swydd
Lleoliad
Deganwy
Sir
Conwy
categori
Prentisiaethau
Sector
Lletygarwch ac Arlwyo / Hospitality & Catering
Gwefan
https://findanapprenticeship.service.gov.wales/find-apprenticeship/chef-apprentice-3
Dyddiad cau
17.09.24
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.