Swyddog Gweinyddol Dwyieithog
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Chi fydd pwynt cyswllt cyntaf ein cwsmeriaid, a byddwch yn rhoi gwasanaeth o’r radd flaenaf dros y ffôn, drwy lythyr ac e-bost, a drwy sgwrsio dros y we
yn y dyfodol.
Byddwch yn mynd ati i geisio datrys ymholiadau gan gwsmeriaid, ac yn defnyddio’ch sgiliau cyfathrebu i ddelio â sgyrsiau cymhleth ond gwerth
chweil. Byddwch yn ysgwyddo cyfrifoldeb ac yn cael cyfleoedd gwirioneddol i ddisgleirio a datblygu eich gyrfa gyda ni.
Byddwch yn ymuno â thîm cyfeillgar a chroesawgar, a chewch ddigon o hyfforddiant a chymorth er mwyn eich helpu i gyflawni eich potensial.
Peidiwch â phoeni – cewch hyfforddiant ar sut i ddelio â galwadau cymhleth.Ein gwaith ni yw’ch cynorthwyo wrth i chi ein helpu i roi cymorth i’n cwsmeriaid.
Os yw hyn yn swnio’n debyg i chi, gallech chi fod yr union Swyddog Gweinyddol dwyieithog y byddem yn falch o’i gyflogi yn CThEF.
Sut i wneud cais
Ar-lein
Manylion Swydd
Lleoliad
Porthmadog
Sir
Gwynedd
categori
Llawn Amser
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Gwefan
https://www.civilservicejobs.service.gov.uk/csr/index.cgi
Dyddiad cau
18.11.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk