Digwyddiad Agored (gan gynnwys Digwyddiad Darganfod Addysg Uwch)
Yn ein digwyddiadau agored, cei wybod am y dewis eang o gyrsiau llawn amser sydd ar gael, y profiad o astudio yn y coleg a'r gefnogaeth a'r cyfleusterau rhagorol sydd ar gael i ddysgwyr!
Cei hefyd gwrdd â'r tiwtoriaid, gofyn unrhyw gwestiynau sydd gen ti a chael gwybod sut i sicrhau dy le ar gyfer mis Medi 2025.
Rydyn ni'n gwahodd dysgwyr a'u rhieni i ymuno â ni yn y digwyddiad.
Byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth am brentisiaethau, cyrsiau rhan-amser a chyrsiau addysg oedolion.
Digwyddiad i Rannu Gwybodaeth am Addysg Uwch
Ar y noson byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad Addysg Uwch a fydd yn gyfle i ddysgu rhagor am y dewis helaeth o gyrsiau gradd a chyrsiau lefel prifysgol sydd ar gael yn y coleg. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau mewn dros 30 maes pwnc, a chaiff mwyafrif ein cyrsiau gradd eu dilysu a'u dyfarnu gan Brifysgol Bangor.
Darperir y rhan fwyaf o'r cyrsiau yn y ganolfan brifysgol arbenigol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, neu ar ein campysau ym Mangor, Llangefni a'r Rhyl. Mae rhai cyrsiau gradd dwyieithog ar gael yn Nolgellau hefyd.