Digwyddiad Agored Tachwedd
Mae ein digwyddiadau agored yn gyfer i weld ein campysau a'n cyfleusterau rhagorol. Cei gyfle hefyd i gwrdd â'r tiwtoriaid ac i ddod i wybod rhagor am y dewis eang o gyrsiau sydd ar gael. Bydd ein tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am gyllid myfyrwyr, cludiant neu lesiant.
Archeba dy le heddiw.
Yn ogystal â'r cyrsiau galwedigaethol a'r cyrsiau Lefel A i ddysgwyr sy'n gadael yr ysgol, bydd cyfle hefyd i ddysgu rhagor am y cyrsiau eraill sydd ar gael.
Cyrsiau Gradd a Lefel Prifysgol
Bydd ein Cynghorwyr Addysg Uwch yma i gynnig gwybodaeth am y dewis helaeth o gymwysterau lefel uwch sydd ar gael yn lleol i chi, yn cynnwys Graddau Sylfaen a Graddau Anrhydedd. Gall y cynghorwyr hefyd roi cyngor ar gyllid a llenwi ffurflenni cais.
Oedolion a dysgu Rhan amser
Mae gennym ddewis helaeth o gyrsiau i oedolion a chyrsiau rhan amser - felly os ydych chi am wella eich cyfleoedd gwaith, gloywi eich sgiliau Mathemateg neu Saesneg, neu ddysgu rhywbeth newydd mewn amgylchedd cyfeillgar, gall ein tîm eich helpu i ddod o hyd i gwrs sy'n addas i chi.
Prentisiaethau
Gall y tîm prentisiaethau roi gwybodaeth i chi am yr amrediad eang o lwybrau sydd ar gael - p'un a ydych eisoes yn gweithio neu eisiau dechrau ar gwrs prentisiaeth.
Cyflogwyr
Ydych chi'n gyflogwr lleol sydd eisiau rhagor o wybodaeth am hyfforddiant, ar eich cyfer chi neu eich staff? Bydd Cynghorwyr Datblygu Busnes o dîm Busnes@LlandrilloMenai ar gael i roi cyngor ar yr amrediad o hyfforddiant a'r cyllid sydd ar gael.