Digwyddiad Agored Addysg Uwch - Graddau Sylfaen mewn Celfyddydau Coginio a Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau
Ydych chi’n ystyried Gradd Sylfaen mewn Rheoli Celfyddydau Coginio neu Radd Sylfaen mewn Rheoli Lletygarwch Twristiaeth a Digwyddiadau?
Ymunwch â ni ar gyfer Digwyddiad Agored Addysg Uwch anffurfiol ar gyfer darpar fyfyrwyr a rhieni/gwarcheidwaid sy’n dymuno cael rhagor o wybodaeth am astudio ar lefel gradd mewn amgylchedd cefnogol sy’n canolbwyntio ar y diwydiant.
Beth i’w ddisgwyl:
- Trosolwg o’r cyrsiau Gradd Sylfaen
- Cyflwyniad ar strwythur y cwrs, addysgu, dysgu ac asesu
- Trafodaeth ar gyfleoedd gyrfa a dilyniant
- Cyflwyniad byr a sesiwn holi ac ateb ar gyllid myfyrwyr
- Taith fer o’r campws, gan gynnwys cyfleusterau addysgu a dysgu
- Cyfle i gwrdd â’r staff a gofyn cwestiynau
- Te a choffi ar gael
Ymholiadau:
- Cysylltwch â Mike Garner:
- m.garner@gllm.ac.uk
- 01492 546666 (ext. 1289)