Campws Dolgellau - Digwyddiad Ymgysylltu Cymunedol
COFIWCH: I archebu eich lle yn un o'n digwyddiadau. Defnyddiwch y ffurflen archebu ar waelod y brif dudalen ddigwyddiadau yma.
Nôd ein Digwyddiad Ymgysylltu Cymunedol yw dod â phobl leol ynghyd a rhoi’r cyfle iddynt ddarganfod mwy am Gampws Dolgellau, Coleg Meirion-Dwyfor.
Cewch weld y cyfleusterau, siarad â staff am y cyrsiau fydd yn dechrau fis Medi a byddwch hefyd yn gallu cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog.
Mae'r digwyddiad yn agored i bawb!
Gan gynnwys:
Disgyblion ysgol yr ardal yn edrych ar eich opsiynau ar gyfer mis Medi
Rhieni sydd am ymweld â'r campws i weld y cyfleusterau a siarad â'r staff
Trigolion lleol sydd â diddordeb mewn gweld beth sydd gan y coleg a gwasanaethau lleol i'w gynnig
Pynciau sydd ar gael:
- Celf a Dylunio
- Lefel-A
- Therapi Harddwch
- Busnes
- Cyfrifiadura
- Adeiladu
- Graddau
- Peirianneg
- Trin Gwallt
- Lletygarwch
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Sgiliau Byw'n Annibynnol
- Chwaraeon