Mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Bae Colwyn, mae Coleg Llandrillo’n falch o ddarparu rhaglen Academi Bêl-droed.
Mae’r ysgoloriaeth bêl-droed gyffrous hon yn rhoi cyfle i bêl-droedwyr uchelgeisiol gyfuno eu haddysg â hyfforddiant o’r radd flaenaf, gan gael profiad o chwarae mewn gemau cystadleuol a dilyn llwybr datblygu clir.