Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Mae'r Gweithle ar ei Ennill Drwy Gyfathrebu Gwell

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Busnes@LlandrilloMenai - Llwyn Brain, Parc Menai, Busnes@LlandrilloMenai - Parc Busnes Llanelwy, Safle cyflogwr
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 haner diwrnod. £110

Cofrestru
×

Mae'r Gweithle ar ei Ennill Drwy Gyfathrebu Gwell

Cyrsiau Byr

Busnes@LlandrilloMenai - Llanelwy
Cwrs byr: 28/04/27, 9:00 YB | Cost: £110.00

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer arweinwyr ar bob lefel, i archwilio ffyrdd ymarferol o ddatblygu 'Sgiliau Cyfathrebu Rhagorol' yn y gweithle o fewn eu sefydliadau.

Pam Dilyn y Cwrs?

Datblygu syniadau, technegau a chymwysiadau ymarferol gan arwain at greu diwylliant o gyfathrebu rhagorol yn y gweithle.

Ar ddiwedd y cwrs, bydd pob dysgwr yn cwblhau cynllun gweithredu personol byr ymarferol i wella sgiliau a gwybodaeth cyfathrebu ei hun ac i wella perfformiad y tîm, lefel cymhelliant y tîm, cynnydd mewn cynhyrchiant a gostyngiad mewn trosiant staff a gwrthdaro.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i ganiatáu i gynrychiolwyr adfyfyrio ar eu sgiliau cyfathrebu eu hunain a chael adborth gwerthfawr gan eraill ar eu deallusrwydd emosiynol a'u harddulliau arweinyddiaeth.

Gan arwain at fod yn fwy hyderus wrth ymdrin â sgyrsiau anodd ond hanfodol, er mwyn gwella perfformiad y tîm.

Cynnwys Allweddol (modiwlau a ddefnyddir):

  1. Diffiniad: Beth yw Cyfathrebu.
  2. Pam mae creu diwylliant o 'Gyfathrebu Rhagorol' yn y gweithle yn hanfodol i'r busnes. (Yn gysylltiedig â Chenhadaeth, Gweledigaeth a Gwerthoedd y cwmni) a model Cyfathrebu Shannon a Weaver.
  3. Dadansoddi effaith cyfathrebu gwael ar y busnes ac ar unigolion.
  4. Archwilio sut y gall arweinwyr a rheolwyr alinio Cod Ymddygiad y cwmni i ddod yn fodel rôl.
  5. Deall pwysigrwydd Deallusrwydd Emosiynol yn y broses gyfathrebu (Model Goleman).
  6. Datblygu Cynllun Gweithredu personol Pum Cam i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth gyfathrebu eich hun ymhellach gan arwain yn uniongyrchol at wella perfformiad aelodau tîm y sefydliad, profiad cwsmeriaid a pherfformiad y sefydliad cyfan.

Noder: bydd y cwrs yn gofyn i'r dysgwyr gael adborth ffurfiol gan eraill ar: Arddulliau Arweinyddiaeth a sgiliau Deallusrwydd Emosiynol rhwng sesiwn 1 a 2.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr tîm ar bob lefel, sydd wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth wrth greu diwylliant o gyfathrebu rhagorol yn y gweithle.

Y rhai a fyddai’n elwa fwyaf ydy:

  • Arweinwyr a rheolwyr sy'n ceisio gwella sgiliau cyfathrebu er mwyn creu tîm sy'n perfformio ar lefel uchel.
  • Unrhyw un sydd â'r rôl a'r cyfrifoldeb o greu dull model rôl.
  • Arweinwyr a rheolwyr yn gweithio ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth i:
  • Gwella cyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol.
  • Delio â rheoli gwrthdaro
  • Cynnal sgyrsiau anodd
  • Gwella sgiliau Deallusrwydd Emosiynol.
  • Yn ogystal ag arweinwyr a rheolwyr sydd â'r rôl a'r cyfrifoldeb i gynnal Adolygiadau Perfformiad aelodau'r tîm, yn ffurfiol ac yn anffurfiol.

Mae'r cwrs hwn yn arbennig o werthfawr i sefydliadau sy'n anelu at wella cyfathrebu drwy greu diwylliant sy'n galluogi pob unigolyn i gyrraedd ei botensial llawn..

Gofynion mynediad

Dim.

Cyflwyniad

Gweithdy rhyngweithiol dan arweiniad tiwtor.

Asesiad

Nid oes asesu ffurfiol.

Dilyniant

  • Cyrsiau Micro-Ddysgu eraill
  • Cyrsiau Rheolaeth a Proffesiynol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn gwrando yn y dosbarth