Twristiaeth a Busnes Lefel 1
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Twristiaeth a Busnes Lefel 1Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi ddechrau ar yrfa ym maes teithio a thwristiaeth?
Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i'r sector teithio a thwristiaeth. Byddwch yn dysgu sgiliau hanfodol y diwydiant a bydd hyn yn eich paratoi i fynd ymlaen ymhellach ym myd addysg neu i gychwyn ar eich gyrfa.
Gofynion mynediad
- Rhaid bod gennych chi diddordeb yn y diwydiant a busnes teithio a thwristiaeth
- Rhaid i chi fod yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant
- Rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol da
- Rhaid i chi fod yn barod i ddatblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da
- Mae lleoedd ar y rhaglen yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Sesiynau trafod a sesiynau tiwtorial
- Gwaith grŵp
- Ymweliadau allanol
- Siaradwyr gwadd
- Astudiaethau achos
- Profiad gwaith yn y coleg (Swyddfa Deithio)
- Amgylchedd dysgu rhithwir Google Classroom
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Gwaith portffolio
- Gwaith cwrs ac aseiniadau
- Prosiectau
- Gwaith grŵp
- Cyflwyniadau
Dilyniant
Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn rhoi dewisiadau amrywiol i chi o ran addysg a chyflogaeth. Byddwch yn dysgu sgiliau a safonau sylfaenol y diwydiant a bydd hyn yn ei gwneud hi'n bosibl i chi weithio mewn amrywiaeth o yrfaoedd, un ai'n syth neu'n dilyn hyfforddiant pellach. Mae hyn yn cynnwys gweithio i sefydliadau twristiaeth lleol a rhanbarthol, i'r farchnad atyniadau cenedlaethol neu i'r diwydiant cynadleddau a digwyddiadau. Yn ogystal, gallech weithio dramor gyda chwmnïau hedfan, cyrchfannau a chwmnïau teithio.
Gallech fynd ymlaen i astudio amrywiaeth o gymwysterau lefel 2 ym maes twristiaeth a theithio neu bwnc arall.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol, Oedolion a Rhan-amser
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
- Teithio a Thwristiaeth
Teithio a Thwristiaeth
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: