Tystysgrif Diogelwch Safle a Mwy- Cydlynydd Gwaith Dros Dro
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 ddiwrnod
Tystysgrif Diogelwch Safle a Mwy- Cydlynydd Gwaith Dros DroCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs deuddydd hwn ar gyfer y rhai ar y safle sy'n gyfrifol am reoli pob math o waith dros dro. Fe'i cynlluniwyd i roi hyder i uwch reolwyr a'r rhai sy'n ymgysylltu â chontractwyr. Bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth drylwyr i ymgeiswyr o rôl cydlynydd gwaith dros dro.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill gwybodaeth a sgiliau mewn:
- Pwysigrwydd y '4C': cyfathrebu, cydweithredu, cydgysylltu a chymhwysedd wrth reoli gwaith dros dro fel cydlynydd Gwaith Dros Dro.
- Deall yr angen am gydlynydd gwaith dros dro a'i ddyletswyddau
- Deall rolau eraill
- Deall BS5975, y cod Arfer Gorau ar gyfer Strwythurau Dros Dro ar Safleoedd Adeiladu
- Agweddau statudol ar waith dros dro
- Asesiadau risg a datganiadau dull
- Rheoli'r broses waith dros dro.
Gofynion mynediad
Dim
Cyflwyniad
Cyflwyno drwy gyfrwng astudiaethau achos, trafodaethau yn y dosbarth, gwaith grŵp a chyflwyniadau grŵp.
Bydd angen i chi wneud rhywfaint o hunan-astudio y tu allan i'r cwrs.
Asesiad
- Asesu parhaus. Mae angen i chi fynychu'r cwrs deuddydd llawn - gweler y gofynion presenoldeb Safle a Mwy.
- Prawf amlddewis.
Dilyniant
Cyrsiau Grŵp eraill.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
- Iechyd a Diogelwch
Dwyieithog:
n/aAdeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig