Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Arweinyddiaeth Strategol: Datblygu Strategaeth sy'n canolbwyntio ar gynnig ‘Profiad Rhagorol i Gwsmeriaid'

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Busnes@LlandrilloMenai - Llwyn Brain, Parc Menai, Busnes@LlandrilloMenai - Parc Busnes Llanelwy, Safle cyflogwr
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 ddiwrnod. £200

Cofrestru
×

Arweinyddiaeth Strategol: Datblygu Strategaeth sy'n canolbwyntio ar gynnig ‘Profiad Rhagorol i Gwsmeriaid'

Cyrsiau Byr

Busnes@LlandrilloMenai - Llanelwy
Cwrs dydd: 16/02/27, 9:00 YB | Cost: £200.00
Busnes@LlandrilloMenai - Llanelwy
Cwrs dydd: 16/03/27, 9:00 YB | Cost: £200.00
Busnes@LlandrilloMenai - Llanelwy
Cwrs byr: 20/04/27, 9:00 YB | Cost: £200.00
Busnes@LlandrilloMenai - Llanelwy
Cwrs dydd: 11/05/27, 9:00 YB | Cost: £200.00
Busnes@LlandrilloMenai - Llanelwy
Cwrs dydd: 15/06/27 | Cost: £200.00
Busnes@LlandrilloMenai - Llanelwy
Cwrs dydd: 06/07/27, 9:00 YB | Cost: £200.00

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer Uwch Arweinwyr sy'n dymuno archwilio pob agwedd ar sut i ddatblygu Strategaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid o fewn eu sefydliad eu hunain.

Pam Dilyn y Cwrs?

Datblygu syniadau a thechnegau ymarferol a chael llawlyfr er mwyn hwyluso datblygu strategaeth arloesol i gwmnïau i ddarparu Gwasanaeth i Gwsmeriaid a fydd yn gwella twf, cynhyrchiant a chadw cwsmeriaid y sefydliad.

Cynnwys Allweddol (modiwlau a ddefnyddir):

  1. Diffiniad: Beth yw 'Profiad Cwsmeriaid'.
  2. Pam mae darparu profiad rhagorol i gwsmeriaid yn hanfodol i'r busnes.
  3. Dadansoddi effaith profiad gwael i gwsmeriaid ar y busnes.
  4. Archwilio rhwystrau mewnol a nodi sut i oresgyn rhwystrau er mwyn cynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
  5. Sut i alinio: Deallusrwydd Emosiynol gyda Gwasanaeth i Gwsmeriaid (Model Goleman).
  6. Pum Cam i greu Profiad Arloesol i Gwsmeriaid.
  7. Sut i gymhwyso Datrys Problemau yn y broses o Adfer Gwasanaeth (model).
  8. Diwrnod 2: Meddwl Dylunio Bydd pob cynrychiolydd yn cwblhau Cynllun Gweithredu Byr, gan sefydlu camau gweithredu a meithrin atebion arloesol sy'n arwain yn uniongyrchol at wella profiad i gwsmeriaid y sefydliad ac at dwf y sefydliad.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Perchnogion busnesau neu uwch arweinwyr sy'n dymuno dod o hyd i strategaethau ymarferol i feithrin syniadau arloesol wrth greu a datblygu Strategaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid.

Neu mewn sefydliad mwy: Aelodau'r tîm sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu Strategaeth Gwasanaeth i Gwsmeriaid gydag aelodau eraill o'r tîm yn gyfrifol am weithredu'r strategaeth.

Gofynion mynediad

Dim.

Cyflwyniad

Gweithdy rhyngweithiol dan arweiniad tiwtor.

Asesiad

Nid oes asesu ffurfiol.

Dilyniant

  • Cyrsiau Micro-Ddysgu eraill
  • Cyrsiau Rheolaeth a Proffesiynol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn gwrando yn y dosbarth