Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele, Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1.5 awr yr wythnos am 13 wythnos / 2 awr yr wythnos am 10 wythnos (yn dibynnu ar y tymor)

Gwnewch gais
×

Sbaeneg (Cam 3)

Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr sydd am ddysgu a meithrin sgiliau siarad Sbaeneg er mwyn pleser.

Gall y cwrs gynnwys unrhyw un o'r canlynol ar lefel sy'n addas i'r dosbarth:

  • Cyfarchion
  • Cyflwyno'ch hun a'ch teulu
  • Rhoi a gofyn am wybodaeth
  • Rhoi a dilyn cyfarwyddiadau
  • Trefniadau teithio
  • Archebu ystafelloedd mewn gwesty
  • Bywyd teulu
  • Bwyta allan
  • Siopa
  • Gweithgareddau hamdden a chwaraeon
  • Delio ag argyfyngau
  • Moduro
  • Sefyllfaoedd gwaith
  • Defnyddio gramadeg

Gofynion mynediad

Diddordeb yn Sbaen a'i harferion/traddodiadau.

Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Bydd y gwersi'n cael eu cynnal yn y dosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dysgu. Bydd yna ymarferion ynganu, trafodaethau ar sail senarios go iawn, clipiau fideo, gwaith cyfieithu a sesiynau ymarfer siarad.

Asesiad

Byddwch yn cyflwyno portffolio o'ch gwaith er mwyn i'r tiwtor ei asesu. Gall gynnwys taflenni gwaith wedi'u llenwi, gwaith ysgrifenedig a recordiadau sain ohonoch yn ymarfer siarad.

Dilyniant

  • Cyrsiau Sbaeneg lefel uwch
  • Cyrsiau mewn ieithoedd eraill

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Ieithoedd

Dwyieithog:

n/a

Ieithoedd

Dau fyfyriwr yn gweithio yn y dosbarth