Gweini Bwyd a Diod yn Broffesiynol - Goruchwylio Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
1 flynedd
Gweini Bwyd a Diod yn Broffesiynol - Goruchwylio Lefel 3Llawn Amser (Addysg Bellach)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ydych chi'n awyddus i ddatblygu sgiliau uwch ym maes y gwasanaeth bwyd a diod? Hoffech chi gael rôl goruchwylio yn y sector arlwyo a lletygarwch?
Mae'r rhaglen alwedigaethol hon yn ffordd wych ymlaen, pa un ai ydych yn dod o gefndir proffesiynol neu addysgol. Mae'r cwrs wedi cael ei gynllunio i wella sgiliau'ch crefft a'ch sgiliau goruchwylio ym maes y gwasanaeth bwyd a diod. Mae'n rhoi i chi'r cymhwyster a'r arbenigedd i weithio mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau.
Yn ogystal â'r prif gymhwyster, Diploma mewn Goruchwylio ym maes Gweini Bwyd a Diod yn Broffesiynol cewch gyfle hefyd i ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant h.y. Ymwybyddiaeth o Alergenau, COSHH, Bwydydd Iach a Dietau Arbennig; Codi a chario Bydd Sgiliau Hanfodol neu TGAU (yn dibynnu ar eich gradd gyfredol) hefyd yn rhan integrol o'r cwrs.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Gweithdai ymarferol
- Sesiynau theori
- Astudio mewn amgylchedd gwaith realistig
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
- Tasgau ymarferol
- Aseiniadau
- Cwestiynau atebion byr
- Arsylwi
Dilyniant
Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn rhoi i chi nifer o ddewisiadau o ran addysg a chyflogaeth. Fe allwch ddewis ymgeisio am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch, yn y maes lletygarwch neu goginio.
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Gradd Sylfaen (FdA) Celfyddydau Coginio
- BA (Anrh) Rheoli ym maes Lletygarwch
Os byddwch yn mynd yn syth i waith, bydd eich sgiliau uwch yn eich galluogi i weithio mewn nifer o rolau. Gellir cael swyddi goruchwylio neu swyddi arbenigol ym maes y gwasanaeth bwyd a diod mewn nifer o leoliadau gwahanol gan gynnwys gwestai, bwytai, tafarndai, canolfannau cynadledda, cyfleusterau arddangosfeydd, canolfannau chwaraeon, busnesau arlwyo a sefydliadau eraill.
Os oes gennych eisoes brofiad proffesiynol bydd y cwrs hwn yn ychwanegu at eich cyflogadwyedd ac yn eich galluogi i gael gwell cyfleoedd yn y diwydiant.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- International
- Lletygarwch ac Arlwyo
Dwyieithog:
n/aLletygarwch ac Arlwyo
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: