Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

RINCE2® 7fed argraffiad fersiwn 2 YMARFERYDD AGILE⁠ - Cyflwyniad hybrid

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein, Busnes@LlandrilloMenai - Parc Busnes Llanelwy
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 diwrnod ⁠

Cofrestru
×

RINCE2® 7fed argraffiad fersiwn 2 YMARFERYDD AGILE⁠ - Cyflwyniad hybrid

Oedolion a Rhan-amser

Cyfrif Dysgu Personol
Busnes@LlandrilloMenai - Llanelwy
Cwrs dydd: 15/03/27, 9:00 YB | Cost: £1,760.00
Busnes@LlandrilloMenai - Llanelwy
Cwrs dydd: 09/07/27, 9:00 YB | Cost: £1,760.00

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys y cwrs PRINCE2: Ymarferydd AGILE a'r arholiad. Datblygwch eich sgiliau y tu hwnt i'r cwrs PRINCE2 Agile® Sylfaen. Dysgwch sut i arwain timau, rhoi arferion ystwyth ar waith, a defnyddio offer ystwyth yn effeithiol yn eich sefydliad. Y gwahaniaeth rhwng Rheoli Prosiectau AGILE a Prince2 yw bod AGILE wedi'i seilio ar amgylcheddau cyflym, ailadroddol, sy'n fodlon iawn addasu i adborth gan ddefnyddwyr.⁠

Nod y cwrs hwn yw eich galluogi i lwyddo yn arholiad Ymarferydd PRINCE2® AGILE. I lwyddo yn yr arholiad bydd angen i chi:

  • Ddeall cysyniadau sylfaenol ffyrdd cyffredin o weithio yn ystwyth.
  • Deall pwrpas a chyd-destun cyfuno PRINCE2 a'r ffordd ystwyth o weithio.
  • Gallu cymhwyso a gwerthuso'r meysydd ffocws i brosiect mewn cyd-destun ystwyth.
  • Gallu gwella ac addasu’r chwe agwedd ar brosiect mewn cyd-destun ystwyth.
  • Gallu cymhwyso neu deilwra egwyddorion, themâu, prosesau a chynhyrchion rheoli PRINCE2 i brosiect mewn cyd-destun ystwyth.

Enillwch sgiliau AGILE a sgiliau rheoli prosiectau y mae galw mawr amdanynt, er mwyn ffynnu mewn marchnad sy'n gystadleuol iawn. Mae'r modiwl hwn yn ymdrin â chysyniadau craidd y dull a'r holl wybodaeth sydd ei hangen i FOD yn ystwyth, a GWEITHREDU yn ystwyth. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at Reolwyr Prosiectau Agile / Hybrid / unigolion sy'n dymuno bod yn Rheolwyr Prosiect. Mae’r cwrs hefyd yn berthnasol i staff eraill sy’n ymwneud â dylunio, datblygu a chyflawni prosiectau, gan gynnwys: Aelodau'r Bwrdd Prosiect, Rheolwyr Tîm, staff Sicrwydd Prosiect, staff Cymorth a Chefnogaeth Prosiect, Dadansoddwyr Busnes a pherchnogion y cynnyrch.

Mae'r cwrs yn un dwys ac mae angen darllen deunydd y cwrs ymlaen llaw, fydd yn cymryd o leiaf chwe awr. Bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar gyfer pob un o'r nosweithiau/penwythnos, sef cyfanswm o tua 1.5 awr y noson/diwrnod.

Mae gofyn i chi gadw eich cymwysterau PRINCE2 yn gyfredol trwy ail-ddilysu ar ôl tair blynedd, neu drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus fel aelod AEXLOS.

Gofynion mynediad

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi llwyddo yn yr arholiad PRINCE2 Agile SYLFAEN i ddilyn y cwrs hwn. Mae dod i “sesiwn ymwybyddiaeth” 20 munud ar Google Meet yn rhan orfodol o’r broses gofrestru os nad yw’r ymgeisydd wedi astudio gyda GLlM yn flaenorol.

Cyflwyniad

⁠Cyflwyno wyneb yn wyneb ynghyd â chyflwyno ar-lein. ⁠⁠0915-1630 (yn fras) - ar y trydydd diwrnod yr amser gorffen fydd 1600 oherwydd yr arholiadau.⁠ ⁠ Argymhellwn eich bod yn dod i'r sesiynau wyneb yn wyneb os yw'n bosibl. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gall hynny fod yn ddefnyddiol ar gyfer y cwrs hwn.

Asesiad

Yr arholiad YMARFERYDD: Naill ai ar bapur yn Llanelwy - prynhawn olaf y cwrs, neu ddefnyddio taleb ar-lein.

Cwestiynau amlddewis, 50 cwestiwn, angen 30/50 i lwyddo - 60%, 2½ awr o hyd, llyfr agored.

Mae cost yr arholiad wedi'i gynnwys yn y ffi.

Dilyniant

Pa swyddi alla i ymgeisio amdanynt ar ôl cwblhau fy hyfforddiant PRINCE2?

Enghreifftiau o swyddi a chyflogau bras.

  • Rheolwr Prosiect Agile / Rheolwr Cyflenwi = Cyflog yn y DU: £60,000
  • Swyddog Rheoli Prosiect (PMO) ac Arweinydd / Dadansoddwr Integreiddio Rhaglenni = Cyflog yn y DU: £40,000
  • Rheolwr Newid Busnes = Cyflog Cyfartalog yn y DU: £50,000

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Hyfforddiant rhan-amser

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn gwrando yn y dosbarth