PRINCE2 7fed argraffiad fersiwn 2 AGILE Sylfaen Cyflwyno hybrid
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Ar-lein, Busnes@LlandrilloMenai - Parc Busnes Llanelwy
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 diwrnod
PRINCE2 7fed argraffiad fersiwn 2 AGILE Sylfaen Cyflwyno hybridHyfforddiant rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r pecyn hwn yn cynnwys y cwrs PRINCE2 AGILE ar lefel Sylfaen a'r arholiad. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd am ennill gwybodaeth a sgiliau rheoli prosiect o’r radd flaenaf, gwella cyfleoedd cyflogaeth a datblygu gyrfa ym maes rheoli prosiectau. Y gwahaniaeth rhwng Rheoli Prosiectau AGILE a Prince2 yw bod AGILE wedi'i seilio ar amgylcheddau cyflym, ailadroddol, sy'n fodlon iawn addasu i adborth gan ddefnyddwyr.
Nod y cwrs hwn yw eich galluogi i lwyddo yn yr arholiad PRINCE2® AGILE Sylfaen. I lwyddo yn yr arholiad bydd angen i chi:
- ddeall y cysyniadau allweddol sy'n ymwneud â'r meddylfryd AGILE, rheoli prosiectau, a rheoli newid sefydliadol
- ddeall prosesau PRINCE2 AGILE, gweithdai AGILE, a sut i gymhwyso'r rhain
- cofio egwyddorion, arferion ac arteffactau PRINCE2 AGILE a deall eu rôl mewn cyd-destun ystwyth
- deall integreiddio PRINCE2 AGILE yn y cyd-destun ehangach.
Ennill sgiliau AGILE a rheoli prosiectau y mae galw mawr amdanynt, er mwyn ffynnu mewn marchnad sy'n gystadleuol iawn. Mae'r modiwl hwn yn ymdrin â chysyniadau craidd y dull a'r holl wybodaeth sydd ei hangen i FOD yn ystwyth, a GWEITHREDU yn ystwyth. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at Reolwyr Prosiectau Agile / Hybrid / unigolion sy'n dymuno bod yn Rheolwyr Prosiectau. Mae’r cwrs hefyd yn berthnasol i staff eraill sy’n ymwneud â dylunio, datblygu a chyflawni prosiectau, gan gynnwys: Aelodau'r Bwrdd Prosiect, Rheolwyr Tîm, staff Sicrwydd Prosiect, staff Cymorth a Chefnogaeth Prosiect, Dadansoddwyr Busnes a pherchnogion y cynnyrch.
Mae'r cwrs yn un dwys ac mae angen darllen deunydd y cwrs ymlaen llaw, fydd yn cymryd o leiaf chwech awr. Bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar gyfer pob un o'r nosweithiau a'r penwythnos, sef cyfanswm o tua 1.5 awr y noson/diwrnod.
Mae gofyn i chi gadw eich cymwysterau PRINCE2 yn gyfredol trwy ail-ddilysu ar ôl tair blynedd, neu drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus fel aelod AEXLOS.
Gofynion mynediad
Nid oes unrhyw feini prawf ffurfiol ar gyfer astudio ar lefel Sylfaen, fodd bynnag mae gwir ddiddordeb neu brofiad o Reoli Prosiect yn hanfodol. Mae dod i “sesiwn ymwybyddiaeth” 20 munud ar Google Meet yn rhan orfodol o’r broses gofrestru.
Cyflwyniad
Cyflwyno wyneb yn wyneb ynghyd â chyflwyno ar-lein. 0915-1630 (yn fras) - ar y trydydd diwrnod yr amser gorffen fydd 1600 oherwydd yr arholiadau.
Argymhellwn eich bod yn dod i'r sesiynau wyneb yn wyneb os yw'n bosibl. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gall hynny fod yn ddefnyddiol ar gyfer y cwrs hwn.
Asesiad
Naill ai ar bapur yn Llanelwy - prynhawn olaf y cwrs, neu ddefnyddio taleb ar-lein.
Cwestiynau ag atebion amlddewis, 40 cwestiwn, angen 24/40 i lwyddo - 60%, 1 awr o hyd, llyfr caeedig.
Mae cost yr arholiad wedi'i gynnwys yn y ffi.
Dilyniant
Enghreifftiau o swyddi a chyflogau bras.
PRINCE2 AGILE Sylfaen:
- Gweinyddwr Prosiectau - £25k
- Dadansoddwr ym maes Rheoli Prosiectau - £35k
- Rheolwyr Prosiect Iau, Agile / Hybrid - £32k
- Darparydd Cymorth ym maes Rheoli Newid - £30k
- Perchennog Cynnyrch ar raddfa fach - £33K
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Hyfforddiant rhan-amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli