Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn, yn rhan-amser, 2 noson yr wythnos

    £500

Cofrestrwch
×

Plymio - Craidd (Noswaith)

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa “ymarferol” yn y Diwydiant Plymio, Gwresogi ac Awyru, yna dyma’r rhaglen i chi. Y dysgwyr i archwilio’r systemau oer, poeth a gwresogi o fewn eiddo domestig a’r cymwyseddau pibellwaith sylfaenol sy’n sail i waith ar y systemau hyn.

Byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o dasgau o fewn amgylchedd gweithdy ‘byw’. Ategir y tasgau hyn gan arddangosiadau ymarferol sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu eich ymwybyddiaeth o’r angen am arferion gweithio diogel, sgiliau offer sylfaenol a mesur cywir. Mae’r holl sgiliau hyn yn angenrheidiol i ddod yn grefftwr cymwys.

Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu eu:

  • Dealltwriaeth o’r adeiladau a’r strwythurau sy’n rhan o’r amgylchedd adeiledig a sut maent yn newid, ac wedi newid, dros amser
  • Dealltwriaeth o’r crefftau, rolau a gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Dealltwriaeth o gylchred oes adeiladau a strwythurau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ar bob cam
  • Dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Gwybodaeth am dechnolegau newydd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o sut mae’r rhain yn berthnasol ac yn bwysig yn y gweithle yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Gwybodaeth a gallu i gymhwyso egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy’n diogelu iechyd, diogelwch, lles a’r amgylchedd
  • Gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sy’n ofynnol wrth gynllunio, perfformio a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn crefft ddewisol o fewn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig

Mae’r unedau craidd i’w hastudio yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i’r Amgylchedd Adeiledig
  • Cyflwyniad i’r Crefftau yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
  • Cyflwyniad i Gylch Bywyd yr Amgylchedd Adeiledig
  • Cyflogadwyedd yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
  • Diogelu Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd wrth weithio yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
  • Cyflwyniad i Dechnolegau Datblygol yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

Gofynion mynediad

Nid oes unrhyw anghenion mynediad ar gyfer y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy sesiynau addysgu a sesiynau ymarferol.

Asesiad

  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Arholiad ar-lein
  • Trafodaeth broffesiynol gyda thiwtor

Dilyniant

  • Plymio - Dilyniant (Noswaith)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'