Creu Portffolio o Ffotograffau
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
8 wythnos
Creu Portffolio o FfotograffauDysgu Oedolion a Chymunedol
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd y cwrs creu portffolio o ffotograffau'n eich cyflwyno i waith amrywiaeth o ffotograffwyr sy'n gweithio mewn gwahanol ddisgyblaethau. Byddwch yn cael cyfle i weithio mewn stiwdio ffotograffig ac i ddefnyddio offer ffotograffiaeth ddigidol MAC fel Adobe Photoshop a Lightroom. Byddwch yn cael eich cyflwyno i waith ffotograffwyr adnabyddus sy'n gweithio mewn gwahanol feysydd, e.e. tirluniau, dogfennol, masnachol, celf gain ac ati, ac yn defnyddio dulliau traddodiadol a chyfoes. Yna, gyda chymorth eich tiwtor a'ch cyd-fyfyrwyr bydd gofyn i chi greu portffolio o'ch delweddau'ch hun sy'n dechrau diffinio'ch dulliau ffotograffig neu'ch dewis destunau.
Byddwch yn cael cefnogaeth lawn gan eich tiwtor ac mae croeso i ddechreuwyr neu ffotograffwyr newydd. Bydd y cwrs yn addas os ydych am ddysgu rhagor am eich camera, am dechnegau ffotograffiaeth ddigidol, am sut mae ffotograffwyr cyfoes a thraddodiadol yn gweithio ac am fod yn rhan o amgylchedd creadigol gyda'r bwriad o gynhyrchu portffolio ffotograffig proffesiynol a llawn ystyr. Beth fyddwch yn ei ddysgu:
- Technegau creu portffolio effeithiol a ddefnyddir gan Ffotograffwyr adnabyddus sy'n defnyddio dulliau traddodiadol a chyfoes
- Trefnu delweddau a rheoli ffeiliau
- Magu hyder fel ffotograffydd
- Golygu delweddau a ffurfio dilyniannau
- Rheoli arddangosfeydd
- Hanfodion defnyddio Adobe Lightroom a Photoshop Foundations yn cynnwys:
- Tocio ac ailfeintio
- Newid disgleirdeb a chyferbynnedd delwedd
- Cywiro cydbwysedd y Gwyn a'r Lliw
- Technegau Haenu Syml
- Fformatau Ffeiliau
- Cadw'ch Delweddau Digidol i'w Hargraffu, yn cynnwys cywiro'r cydraniad
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â David Clarke: clarke1d@gllm.ac.uk
Gofynion mynediad
Dim
Cyflwyniad
Gweithdai wythnosol
Asesiad
Aseiniadau wythnosol
Dilyniant
Dilyniant i gyrsiau byr eraill yn ymwneud â ffotograffiaeth a chelf a dylunio sy'n gofyn am waith portffolio.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgu Oedolion a Chymunedol
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
Dwyieithog:
n/a