Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Llwybr i Addysg Bellach

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os yw unrhyw un o'r canlynol yn wir, efallai mai'r cwrs Llwybr i Addysg Bellach yw'r dewis iawn i chi:

  • l Ddim yn siŵr pa gam i'w gymryd nesaf?
  • l Heb gael y graddau roeddech wedi gobeithio eu cael yn yr ysgol?
  • l Ddim yn siŵr pa lwybr gyrfa i'w ddewis?

Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud nesaf a'ch bod eisiau dod i'r coleg, efallai mai'r cwrs 'Llwybr i Addysg Bellach' yw'r dewis iawn i chi.

Yn ystod y flwyddyn byddwn ni'n eich helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer byd gwaith neu astudio ymhellach yn y coleg. Cewch hefyd gyfle i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio gydag eraill. Byddwn yn eich helpu i wneud hyn drwy wahanol weithgareddau a thripiau gan gynnwys ymweliadau â safleoedd hanesyddol yn Lerpwl a Llanberis, gweithgareddau glan môr yng nghoedwig Niwbwrch, dyddiau chwaraeon a llawer iawn rhagor.

Ymhlith y meysydd y byddwch yn eu datblygu ymhellach mae:

  • l Byw'n iach, ac ymwybyddiaeth o Alcohol a Chyffuriau
  • l Prosiectau cymunedol sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd
  • l Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a threfnu gweithgareddau o'r fath
  • l Ymwybyddiaeth o fyd gwaith a pharatoi ar gyfer cyfweliad
  • Dinasyddiaeth a'ch hawliau fel unigolyn yn eich cymuned
  • Gweithio mewn timau a meithrin sgiliau ar gyfer rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid

Cymhwyster City & Guilds mewn Sgiliau Cyflogadwyedd a Datblygiad Personol a Chymdeithasol yw'r prif gymhwyster, yn ogystal â chymwysterau Mathemateg a Saesneg.

Bydd Tiwtor Personol yn eich helpu i drefnu'ch astudiaethau ac yn eich cyfarfod o leiaf unwaith yr wythnos.

Byddwn yn cyflwyno'r cwrs drwy gyfrwng darlithoedd, trafodaethau, astudiaethau achos, ymweliadau a thripiau allanol, dysgu rhyngweithiol, astudio unigol, gwaith grŵp a llawer o ddulliau eraill i wneud y dysgu'n brofiad y byddwch yn ei fwynhau.

Rydym yn defnyddio sawl dull asesu. Mae'n bosib y byddwch yn ymwybodol o rai ohonynt ac efallai y bydd eraill yn brofiad newydd. Bydd y rhain yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau mewn grŵp, cyflwyniadau, chwarae rôl, arsylwadau ar eich gwaith ymarferol ac, mewn rhai achosion, arholiadau

Gofynion mynediad

Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn gan fyfyrwyr sydd ag un o'r canlynol:

  • Bydd disgwyl i chi ddangos eich ymrwymiad i ddysgu trwy gyflawni'ch graddau targed yn eich arholiadau TGAU a chael presenoldeb da ym mlwyddyn 11.
  • Yr awydd a'r penderfyniad i ennill cymhwyster.

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, neu os hoffech drafod y gofynion mynediad hyn ymhellach, cysylltwch â'r gwasanaethau cymorth dysgu un ai'n uniongyrchol neu trwy'r cyfleuster sgwrsio. Bydd staff y gwasanaethau i ddysgwyr yn gallu trafod eich proffil gyda chi a rhoi cyngor ar y cyrsiau sydd ar gael.

Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu lyfr Chrome y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr am ragor o wybodaeth.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Trafodaethau
  • Astudiaethau achos
  • Ymweliadau addysgol
  • Gwaith grŵp
  • Astudio yn eich amser eich hun
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Asesiad

Rydym yn defnyddio sawl dull asesu. Mae'n bosib y byddwch yn gyfarwydd â rhai ohonynt ac efallai y bydd eraill yn brofiad newydd. Bydd y dulliau hyn yn cynnwys:

  • Gwaith cwrs
  • Aseiniadau grŵp
  • Cyflwyniadau
  • Chwarae rôl
  • Arsylwadau
  • Arholiadau

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi llawer o ddewisiadau i chi. Bydd eich Tiwtor Personol yn gweithio gyda chi a Gyrfa Cymru i wneud yn siŵr eich bod yn edrych ar yr holl gyfleoedd a dewisiadau posibl i chi allu gwneud y dewis iawn ar gyfer eich dyfodol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Busnes a Gweinyddiaeth
  • Cyn-Alwedigaethol

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Gweinyddiaeth

Cyn-Alwedigaethol

Myfyriwr yn trwsio beic