Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

NVQ 2 mewn Peirianneg (CGPF - Cyflawni Gwaith Peirianneg)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli - Hafan (Peirianneg)
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser: 1 flwyddyn (rhyddhad am ddiwrnod)

Gwnewch gais
×

NVQ 2 mewn Peirianneg (CGPF - Cyflawni Gwaith Peirianneg)

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n weithiwr proffesiynol newydd neu eisoes yn gweithio yn y sector peirianneg? A oes gennych ddiddordeb mewn peirianneg forwrol? Mae'r cymhwyster hwn wedi'i ddyfeisio ar gyfer peirianwyr newydd a phresennol. Mae'n rhoi dealltwriaeth sylfaenol ichi o arferion peirianyddol yn yr amgylchedd morwrol.

Mae'r cwrs yn addas i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen o gymhwyster Lefel 1 neu 2 perthnasol, neu o wybodaeth broffesiynol sydd gennych eisoes. Rhaid i chi fod yn gweithio'n barod yn y diwydiant ac yn chwilio i astudio drwy gael eich rhyddhau am ddiwrnod.

Gofynion mynediad

  • Dylech fod yn gweithio mewn amgylchedd peirianyddol sy'n adeiladu cychod, ffitio neu gynnal a chadw cychod
  • Rhaid i chi fod â chymhelliad ac yn frwdfrydig.
  • Dylai fod gennych dueddiad naturiol a phriodol i fod yn fecanyddol ac ymarferol

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Dosbarthiadau theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Dangosiadau
  • Myfyrio ar eich sgiliau proffesiynol

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Gwaith cwrs
  • Gwaith myfyriol
  • Arsylwi ar eich sgiliau ymarferol

Dilyniant

Bydd cwblhau'r NVQ hwn yn eich helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa peirianneg forol. Efallai y byddwch yn gallu ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol yn eich swydd a gweithio tuag at rôl goruchwylio neu reoli. Byddwch wedi gwella eich cyflogadwyedd yn y diwydiant, a bydd ystod o ddewisiadau proffesiynol ar gael.

Os ydych am symud ymlaen ymhellach mewn addysg, bydd gennych yr opsiwn o symud ymlaen i gwrs Lefel 3. Cynigir nifer o gyrsiau gan Grŵp Llandrillo Menai sy'n addas, gan gynnwys cwrs Peirianneg Forol BTEC a chwrs City and Guilds mewn Adeiladu Cychod, Cynnal a Chadw a Chefnogaeth.

Gwybodaeth campws Pwllheli

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:

Unedau Craidd:

  • Gweithio'n ddiogel mewn amgylchedd peirianyddol
  • Gweithio'n effeithlon ac effeithiol mewn maes peirianyddol
  • Defnyddio a chyfathrebu gwybodaeth dechnegol

Unedau dewisol (dewiswch dair):

  • Cynhyrchu darluniau peirianneg fecanyddol yn defnyddio system CAD
  • Cynhyrchu cydrannau'n defnyddio technegau ffitio â llaw
  • Paratoi a defnyddio turniau ar gyfer gwaith turnio
  • Cynnal a chadw dyfeisiau a chyfarpar mecanyddol
  • Defnyddio pren ar gyfer patrwm, gwneud modelau a chymwysiadau peirianyddol eraill
  • Cynhyrchu mowldinau cyfansawdd yn defnyddio technegau gosod (lay-up) gwlyb

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Dwyieithog:

n/a

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith