Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 2 CACHE mewn Cefnogi Pobl sydd ag Anableddau Dysgu

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    34 wythnos

Gwnewch gais
×

Dyfarniad Lefel 2 CACHE mewn Cefnogi Pobl sydd ag Anableddau Dysgu

Cyrsiau Rhan-amser

Abergele
Dydd Mercher, 06/09/2023

Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni am wybodaeth bellach.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi'r cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau a chodi lefel eu gwybodaeth am gefnogi unigolion sydd ag anableddau dysgu. Mae'r cwrs ar gyfer dysgwyr sydd yn cefnogi unigolion ag anableddau dysgu fel rhan o'u gwaith. Mae'n fanteisiol iddynt fod yn gweithio, gwirfoddoli neu ar leoliad ymarferol yn ystod y cwrs er mwyn dangos eu gwybodaeth a'u sgiliau.

Mae'r cwrs yn addas i'r rhai sydd yn dod i gysylltiad â phobl ag anableddau dysgu fel rhan o'u gwaith, er enghraifft ym maes iechyd, gofal, addysg, tai, hamdden, cyflogi, llyfrgelloedd a gwasanaethau prawf.

Dyddiadau Cwrs

Abergele

Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni am wybodaeth bellach.

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
06/09/202318:00 Dydd Mercher2.0034 £3070 / 16EJA156204

Gofynion mynediad

  • Profiad neu ddiddordeb mewn cefnogi plant/oedolion ag Anableddau Dysgu.
  • Sgiliau Llythrennedd Lefel 1 neu lefel da.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs lefel 2 hwn gan amlaf yn y coleg mewn sesiynau dosbarth, gweithgareddau ymarferol a thiwtorialau. Efallai bydd gofyn i chi drefnu lleoliad gwaith yn cefnogi unigolion ag anableddau dysgu.

Asesiad

Mae angen cyflwyno portffolio o waith yn dangos gwybodaeth ysgrifenedig a chaiff sgiliau eu hasesu drwy arsylwadau uniongyrchol ar leoliad.

Dilyniant

Yn dilyn y cymhwyster hwn gall dysgwyr fynd ymlaen i:

  • NCFE CACHE Lefel 2
  • Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • gwaith

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Hyfforddiant Athrawon

Dwyieithog:

n/a

Hyfforddiant Athrawon