Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau ym maes Lletygarwch Trwyddedig

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    24 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaethau ym maes Lletygarwch Trwyddedig

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r brentisiaeth hon wedi'i hanelu at y sawl sy'n gweithio neu'n awyddus i weithio y tu ôl i far, neu sy'n gwasanaethu cwsmeriaid mewn bar. Fe'i datblygwyd i ddiwallu anghenion penodol y diwydiant lletygarwch trwyddedig. Bydd prentisiaid sy'n gweithio yn y swyddi hyn yn debygol o gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau, e.e. gweini bwyd a diod, cymryd taliadau, gweithio yn y seler, gwirio stoc, gwaith marchnata, hyfforddi a chymell staff eraill. Dyma'r pynciau a gaiff eu trafod yn y cymhwyster hwn: cyfrifoldebau cyfreithiol a chymdeithasol deiliad trwydded bersonol, diogelwch bwyd ym maes arwylo, iechyd a diogelwch yn y gweithle, ymwybyddiaeth o alcohol ac ymwybyddiaeth o gyffuriau mewn eiddo trwyddedig, egwyddorion rheoli gwrthdaro ym maes lletygarwch trwyddedig, egwyddorion gwasanaeth i gwsmeriaid ym maes lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth, gweithrediadau manwerthu trwyddedig.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau.
  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond bydd profiad o'r diwydiant lletygarwch yn ddymunol.
  • Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle. Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

Gellir mynd ymlaen o'r fframwaith hwn i swyddi goruchwyliol neu is reoli ym maes lletygarwch trwyddedig.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Lletygarwch ac Arlwyo

Dwyieithog:

n/a

Lletygarwch ac Arlwyo

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Lletygarwch ac Arlwyo

Cogydd yn coginio mewn cegin