Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Math o gwrs:Rhan amser
- Dull astudio:Rhan amser
- Lefel:4
- Maes rhaglen:Cyfrif Dysgu Personol
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant - Hyd:
1 blwyddyn, rhan-amser (1 diwrnod llawn yr wythnos fel arfer)
- Dwyieithog:n/a
Disgrifiad o'r Cwrs
Cymhwyster sy'n seiliedig ar wybodaeth yw hwn ac fe'i bwriadwyd ar gyfer dysgwyr sy'n awyddus i arwain neu reoli yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'n addas ar gyfer y canlynol:
- Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu gymhwyster cywerth, yn llwyddiannus
- Dysgwyr sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus y cymhwyster Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion neu Blant a Phobl Ifanc), neu gymhwyster cywerth cydnabyddedig
- Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster TAG Uwch neu Ddiploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Ofal Plant yn llwyddiannus
Gofynion mynediad
Cymhwyster seiliedig ar wybodaeth yw hwn ar gyfer dysgwyr a gyflogir neu sydd ar leoliad gwaith yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ac sy'n bwriadu symud ymlaen i weithio fel rheolwyr neu arweinwyr. Mae'r cymhwyster hwn yn gam ymlaen i ddysgwyr sy'n dymuno astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 5 ym maes Rheoli.
Lluniwyd y cymhwyster hwn er mwyn i ddysgwyr feithrin y wybodaeth a'r ddealltwriaeth allweddol sy'n sail i arwain a heoli yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster hwn (neu gymhwyster cyfatebol y cytunwyd arno) cyn ymgymryd â chymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.
Cyflwyniad
Sesiynau addysgu, sesiynau sgiliau yn cynnwys chwarae rôl. Dysgu'n annibynnol.
Cyflwynir y cwrs hwn un diwrnod llawn yr wythnos am flwyddyn academaidd gyfan.
Asesiad
Caiff y cymhwyster Paratoi i Arwain a Rheoli yn y Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei asesu drwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol. Ar gyfer yr asesiad allanol rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
- Project sy'n cynnwys adroddiad ysgrifenedig, cyflwyniad a thrafodaeth sy'n seiliedig ar newid arfaethedig i ymarfer.
Ar gyfer yr asesiad mewnol, rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
- Cyfres o dasgau, sy'n cynnwys ymatebion llafar ac ysgrifenedig
Adborth
Pan fo hynny'n berthnasol, caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol. Mae adborth effeithiol yn cynnwys gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gallant wella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i adfyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu gwella cyn eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r deilliannau dysgu.
Dilyniant
Mae'r cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn darparu'r wybodaeth y mae rheolwyr ei angen i gymryd y cam cyntaf tuag at rôl arwain, gan gefnogi dilyniant llorweddol a fertigol i'r canlynol:
- Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Nod y cymhwyster hwn yw paratoi'r dysgwyr ar gyfer rôl rheoli, drwy feithrin y wybodaeth ofynnol sy'n sail i arwain a rheoli yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.