Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Lefel 4 mewn Sgiliau Dwyieithog (Iaith Arwyddion Prydain/Saesneg)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 awr yr wythnos am 12 wythnos

Cofrestrwch
×

Tystysgrif Lefel 4 mewn Sgiliau Dwyieithog (Iaith Arwyddion Prydain/Saesneg)

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd y cymhwyster hwn yw datblygu sgiliau dysgwyr er mwyn iddynt allu gweithio fel cynorthwywyr cymorth cyfathrebu mewn busnesau lle caiff pobl fyddar eu cyflogi, fel arfer ym myd addysg neu wasanaethau elusennol neu hyd yn oed ym musnesau preifat y bobl fyddar eu hunain.

Cost: ffioedd cwrs £147, ffioedd arholiad o £216.

Diwrnod ac amser i'w cynghori, cysylltwch â Paula Jones 01492 546 666 est. 1726 am ragor o wybodaeth.

Gofynion mynediad

  • Tystysgrif Lefel 3 IBSL mewn Iaith Arwyddion Prydain (neu gymhwyster cyfatebol)
  • Lefel A (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar

Cyflwyniad

Cynhelir y gwersi yn y dosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dysgu.

Asesiad

  • Trosi gwybodaeth o Saesneg llafar i Iaith Arwyddion Prydain, ac fel arall, mewn sefyllfa fyw
  • Trosi gwybodaeth o Saesneg llafar i Iaith Arwyddion Prydain, ac fel arall, mewn sefyllfa fyw gan ddefnyddio technoleg.
  • Darparu cyfieithiad gweledol o'r Saesneg i Iaith Arwyddion Prydain
  • Darparu gwybodaeth ysgrifenedig yn y Saesneg o ddarn a arwyddir yn Iaith Arwyddion Prydain

Dilyniant

  • Cymhwyster Lefel 4 llawn mewn Astudiaethau BSL
  • Cymhwyster Lefel A neu gymhwyster dehongli

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Byddar ac Iaith Arwyddion

Dwyieithog:

n/a

Astudiaethau Byddar ac Iaith Arwyddion