Tystysgrif Sylfaen EAL Lefel 1 mewn Technoleg Peirianneg
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 blwyddyn
Tystysgrif Sylfaen EAL Lefel 1 mewn Technoleg PeiriannegCyrsiau Rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
A oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa gyffrous y maes Peirianneg? Ar y cwrs hwn, cewch feithrin y sgiliau a'r wybodaeth ragarweiniol a fydd yn eich paratoi i weithio mewn amrywiaeth o swyddi ym maes peirianneg, mewn diwydiannau sy'n cynnig gwasanaeth ac mewn diwydiannau gweithgynhyrchu.
Mae'r cwrs yn gysylltiedig â gwaith, a byddwch yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a seiliwyd ar sefyllfaoedd realistig yn y gweithle. Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth ar y cymhwyster hwn, a bydd yn eich paratoi i wneud cynnydd proffesiynol ac addysgol.
Gofynion mynediad
- Rhaid i rai sydd am gael lle ar y rhaglen ddod i gyfweliad.
- 2 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg (Iaith Gyntaf) neu Saesneg.
- Rhoddir ystyriaeth i gymwysterau a/neu brofiad cyfatebol, gan drin pob cais yn unigol
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- sesiynau ymarferol yn y gweithdy
- sesiynau yn y dosbarth
- gwaith myfyriwr ganolog
- arddangosiadau a chyflwyniadau
- trafodaethau grŵp
- amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
- astudio TGAU Mathemateg a Saesneg i lefel uwch
Asesiad
Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Asesiadau ar-lein
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Adeiladu portffolio
- Perfformio ac arsylwi
- Arddangos sgiliau ymarferol
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus ynghyd â chyrraedd gradd TGAU C neu uwch gyda Mathemateg neu Saesneg, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran beth i'w wneud nesaf, gan gynnwys dilyn cwrs Lefel 2 llawn amser mewn Peirianneg er mwyn datblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau ymhellach a gwella'ch rhagolygon.
Dewis arall fyddai gwneud cais am brentisiaeth Lefel 2 a Lefel 3 mewn Peirianneg a chael eich rhyddhau o'r gwaith ddiwrnod yr wythnos.
Ymhlith y meysydd Peirianegol a fydd ar gael i chi, bydd: gweithgynhyrchu, cynnal a chadw, gwneud offer, a chymorth technegol. Os gwnewch barhau i hyfforddi ymhellach, cewch hefyd ddewis gweithio mewn meysydd peirianegol mwy arbenigol ar lefel uwch. Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant ac sy'n meithrin gwybodaeth a sgiliau ym maes peirianneg.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Dwyieithog:
n/a