Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau mewn Defnyddwyr TG

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    16 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaethau mewn Defnyddwyr TG

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r fframwaith yn cynnig i'r prentis y medrusrwydd, sgiliau a'r wybodaeth i weithio yn effeithiol ac effeithlon gyda systemau TG, offer a chymwysiadau cyfathrebu a chynhyrchiant mewn ystod o swyddogaethau gwaith a sectorau diwydiant.

Gall y Defnyddiwr Prentisiaeth Lefel 2 mewn TG fod yn gweithio mewn ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys swyddogaethau gwaith nodweddiadol fel:

  • Cynorthwyydd Personol, Cefnogaeth swyddfa
  • Cefnogaeth desg gymorth cymwysiadau
  • Dylunio/technegydd gwefan
  • Cynorthwyydd cyhoeddi neu amlgyfryngau
  • Gweithredwr Gwerthiant a Marchnata
  • Cynorthwyydd addysgu neu weinyddwr ysgol.

Bydd y Prentis Lefel 3 wedi ei baratoi ar gyfer swyddogaethau gwaith sydd yn gofyn am wybodaeth mewn dyfnder a medrusrwydd yn y defnydd o systemau a meddalwedd neilltuol, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy eang a'r gallu i ddatblygu a phrofi datrysiadau i wella cynhyrchiant gweithle drwy'r defnydd o TG.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad mewn TG yn ddymunol
  • Dylai fod gan brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle
  • Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli
  • TG a'r Cyfryngau
  • Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth

TG a'r Cyfryngau

Myfyrwyr cyfryngau yn gweithio

Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Myfyrwyr yn defnyddio camera