Gwibio i Yrfa ym maes Lletygarwch a Thwristiaeth (Dechrau Ionawr)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
Ionawr 2023 - Mehefin 2023, 19 wythnos
Gwibio i Yrfa ym maes Lletygarwch a Thwristiaeth (Dechrau Ionawr)Llawn Amser (Addysg Bellach)
Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn rhoi dewisiadau amrywiol i chi o ran addysg a chyflogaeth.
Bydd dysgwyr yn meithrin sgiliau ac yn dysgu am safonau'r diwydiant, gan ei gwneud yn bosibl iddynt weithio tuag at ystod o yrfaoedd, naill ai'n syth neu ar ôl cael hyfforddiant pellach.
Mae'r unedau a astudir yn cynnwys:
- Paratoi a Choginio Bwyd
- Archwilio Teithio a Thwristiaeth yn y DU
- Cyfrannu at Gynnal Digwyddiad ym maes Lletygarwch a Thwristiaeth
- Darparu Gwasanaeth i Gwsmeriaid ym maes Teithio a Thwristiaeth
- Bod yn Drefnus a Datblygu Cynllun Datblygiad Personol
Gofynion mynediad
Bydd angen i chi ddangos brwdfrydedd, ymroddiad a pharodrwydd i ddysgu ynghyd a diddordeb yn y diwydiant lletygarwch a thwristiaeth.
Cyflwyniad
- Darlithoedd
- Arsylwadau ar waith ymarferol
- Sesiynau trafod a dosbarthiadau tiwtorial
- Gwaith grŵp
- Ymweliadau allanol
- Siaradwyr gwadd
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Asesiad
Tasgau ymarferol a gwaith cwrs.
Dilyniant
Bydd y cwrs yn paratoi dysgwyr ar gyfer mynd ymlaen i ddysgu ar lefel uwch ym maes lletygarwch a thwristiaeth neu ar gyfer cymwysterau Lefel 2 mewn sectorau eraill.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Teithio a Thwristiaeth