Cyflwyniad i Gwnsela: Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gofal Iechyd (AGORED)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Ar-lein
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
15 wythnos, am 3 awr yr wythnos - gyda'r nos
Cyflwyniad i Gwnsela: Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gofal Iechyd (AGORED)Oedolion a Rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cwrs rhagarweiniol yw hwn a gynlluniwyd i roi pobl ar ben y ffordd gyda chwnsela ac i ddynodi'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddatblygu yn eu rôl broffesiynol neu bersonol.
Nod y cwrs yw adnabod sefyllfaoedd yn y gwaith lle mae gofyn defnyddio sgiliau cwnsela, fel gwrando empathig, a deall agweddau, rhagfarnau a gwerthoedd a all hwyluso neu lesteirio'r berthynas gwnsela.
Bydd yn eich helpu i:
- ddod i ddeall y sgiliau cwnsela craidd sy'n cynnwys gwrando'n weithredol ac yn empathig ynghyd ag ymateb yn effeithiol;
- dod yn ymwybodol o derfynau eich rôl broffesiynol e.e. rôl tiwtor wrth ddysgu a gwybod pryd y mae'n well cyfeirio rhywun at unigolyn/asiantaeth arall.
Mae'r cwrs hwn yn cefnogi strategaeth Meddwl yn Gadarnhaol: Iechyd a Lles Emosiynol Llywodraeth Cymru, ac yn codi ymwybyddiaeth am les emosiynol ac iechyd meddwl.
Dyma'r Unedau Lefel 2 y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn:
- Sgiliau a Theori Cwnsela
- Moeseg
- Ymarfer Adfyfyriol
- Darparu adborth
- Iechyd a llesiant emosiynol (Hyrwyddo hunanofal)
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, ffoniwch 01492 546 666 est. 1729/1307 neu e-bostiwch ceisiadaucwnsela@gllm.ac.uk
Ffi'r Cwrs ar gyfer 2026/27 - £259
Gofynion mynediad
Rhaid i chi fod yn 19 oed o leiaf ar adeg dechrau'r cwrs i astudio ar gyfer y cymhwyster hwn.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy:
- Gyflwyniadau
- Darlithoedd
- Gwaith cwrs
- Gweithgareddau ymarferol
- Llyfr gwaith
Dyddiad Dechrau: Ionawr
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfrwng:
- dyddlyfr dysgu
- hunanasesu
- arfarniad cymheiriaid
- gwerthuso drwy drafod
Dilyniant
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
- Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau a Theori Cwnsela
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Hyfforddiant rhan-amser
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Cwnsela