Cyflwyniad i Gofal Plant
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Caernarfon, Caergybi
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
- 15 awr yr wythnos am 15 wythnos
- Dyddiau ac amseroedd i'w cadarnhau
Cyflwyniad i Gofal PlantDysgu Oedolion a Chymunedol
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bwriad y cwrs yw eich helpu i baratoi ar gyfer y gweithle neu i astudio cwrs lefel uwch. Mae'r cwrs yn cael ei addasu ar gyfer gwahanol swyddi yn y gweithle. Er enghraifft, Gofal Plant, Cynorthwyydd Dosbarth, Gofal, Manwerthu, Lletygarwch neu Weinyddu Busnes.
- Cewch wella eich sgiliau llythrennedd Cymraeg a Saesneg ar gyfer y gweithle trwy gyfrwng gweithgareddau amrywiol a diddorol fydd yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau sillafu, gramadeg, siarad a gwrando, ac ysgrifennu.
- Cewch feithrin y sgiliau hyn ymhellach trwy eu defnyddio mewn taenlenni ac mewn tasgau a sefyllfaoedd eraill sy'n berthnasol i'r gweithle.
- Cewch ddatblygu eich sgiliau TG presennol o ran defnyddio e-bost a'r rhyngrwyd yn y gweithle. Cewch ddysgu am raglenni ac adnoddau defnyddiol. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio rhaglenni Office (Prosesu Geiriau, Cyflwyniadau, Taenlenni a Chyhoeddi). Byddwch yn dysgu rheoli ffeiliau a ffolderi.
- Byddwch yn datblygu eich hyder i weithio mewn tîm ac i siarad mewn grwpiau bach (cyfarfodydd tîm) trwy drafod ac ymresymu.
Byddwch yn gweithio ar gynllun gweithredu gyrfaol i drefnu eich targedau dysgu neu'ch nodau gyrfaol yn gamau y gallwch eu rheoli. Byddwch yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad i gwblhau ffurflenni cais am hyfforddiant pellach neu swyddi.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos ymrwymiad i gwblhau'r cwrs 15 wythnos yn llawn.
Efallai y gofynnir i chi gwblhau asesiad cychwynnol i'n cynorthwyo i benderfynu a yw'r cwrs yn addas i chi.
Cyflwyniad
Bydd y dysgu a'r addysgu'n digwydd yn rhannol yn yr ystafell ddosbarth ac yn rhannol ar-lein.
Bydd y dulliau cyflwyno'n amrywio ac yn cael eu teilwra i anghenion unigol. Byddant yn cynnwys:
- cyflwyniadau a chyfarwyddiadau gan eich tiwtoriaid
- trafodaethau
- cwisiau
- ymchwilio'n annibynnol
- prosiectau a thasgau aseiniad
- gweithio mewn grwpiau a gweithio mewn parau
- astudio hunan-gyfeiriedig
Asesiad
Cewch eich asesu ar sail portffolio o'r gwaith a gynhyrchwyd gennych yn ystod y cwrs.
Dros y 15 wythnos byddwch hefyd yn gweithio ar eich Cynllun Datblygu Personol a'ch Cynllun Gweithredu Gyrfaol. Bydd gofyn i chi gadw dyddiadur adfyfyriol bob wythnos a byddwch yn cyflwyno hwn ar ddiwedd y cwrs.
Dilyniant
- Cwrs Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach i baratoi at Gwrs Mynediad
- Cwrs Mynediad
- Gwaith Cyflogedig
- Fframwaith Cymwysterau a Chredydau yn y Gweithle (NVQ)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgu Oedolion a Chymunedol
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Sgiliau ar gyfer gwaith
Dwyieithog:
n/a