Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

HNC Peirianneg Gyffredinol - Llwybr Cyflym

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 blwyddyn

Cofrestru
×

HNC Peirianneg Gyffredinol - Llwybr Cyflym

Cyrsiau Lefel Prifysgol

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae ein cwricwlwm yn cwmpasu meysydd hanfodol, wedi'u strwythuro'n wyth uned ffocws i sicrhau eich bod yn ennill arbenigedd Peirianneg Addysg Uwch cynhwysfawr mewn un flwyddyn.

Os ydych yn gweithio yn y diwydiant peirianneg, neu os oes gennych brofiad yn y maes bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol y gellir ei ddefnyddio i ddatblygu eich gyrfa neu i astudio ar lefel gradd.

Mae'n addas ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn peirianneg fecanyddol, peirianneg electronig a pheirianneg drydanol mewn meysydd megis dylunio systemau, gweithgynhyrchu a gwasanaethau technegol. Mae hefyd yn addas os ydych wedi cwblhau cymhwyster Lefel 3 ac yn dymuno datblygu eich sgiliau ymhellach er mwyn gweithio yn y diwydiant peirianneg.

Mae'r wyth uned gyntaf yn cynrychioli'r isafswm o gredydau sydd eu hangen i gael Tystysgrif Genedlaethol Uwch. Mae'r unedau hyn wedi'u rhannu'n gyfartal rhwng unedau craidd gorfodol, unedau Trydanol/Electronig ac unedau Peirianneg.

Er mwyn datblygu i fod yn Beiriannydd cyflawn, mae'r pedair uned arall sydd wedi'u rhestru wedi cael eu cynnwys i roi gwell profiad i'r myfyriwr o ran gwybodaeth Peirianneg a chyflawniad academaidd / ysgolheigaidd.

Er na fyddai'r unedau hyn ond yn cael eu cyflwyno pe bai yna ddigon o ddiddordeb, argymhellir yn gryf y dylai myfyrwyr eu cyflawni fel unedau ychwanegol dewisol gan dalu cost bresennol uned ychwanegol.

Ynghyd â llwybrau ychwanegol arbenigol (yn amodol ar y nifer o geisiadau):

Ar gael ar gampws Dolgellau:

• HNC Peirianneg Gyffredinol

Ar gael ar gampws Llangefni:

Mae Llangefni yn cynnig y teitl Peirianneg Gyffredinol i fyfyrwyr ond gydag unedau Trydanol NEU Mecanyddol ar gael i'w dewis, yn dibynnu ar statws cyflogaeth.

Nid yw Llangefni yn cynnig unedau ychwanegol sydd angen taliadau ychwanegol.

Ar gael ar gampws Y Rhyl:

• HNC Peirianneg Gyffredinol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau Ychwanegol Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Teithio sy'n gysylltiedig â mynychu'r rhaglen a phrofiad gwaith, ymweliadau allanol, teithiau maes, dillad addas ar gyfer gwaith/lleoliad, argraffu ychwanegol dros lwfans, cof bach, costau eraill sy'n gysylltiedig â deunydd ysgrifennu.
  • Efallai y bydd hefyd yn fanteisiol, ond nid yn ofynnol, i brynu cynhyrchion meddalwedd amrywiol a ddefnyddir ar y cwrs. Bydd gofynion meddalwedd o'r fath yn cael eu trafod yn ystod y broses gyfweld.
  • Weithiau bydd ymweliadau allanol â chwmnïau, digwyddiadau / sioeau ac ati, a dylai'r myfyriwr gyllidebu ar gyfer hyn

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Gofynion mynediad

Gofynion ieithyddol:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gofynion academaidd:

O leiaf 32 pwynt UCAS, gydag o leiaf 16 pwynt yn dod o gymhwyster Lefel A llawn neu gymhwyster lefel 3 cyfwerth.

  • Cymhwyster Lefel 3 BTEC mewn pwnc perthnasol neu Lefel A Llawn mewn pwnc STEM angenrheidiol
  • Proffil TAG Safon Uwch sy'n dangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn mwy nag un pwnc TAG. Dylai'r proffil hwn gael ei gefnogi gan TGAU graddau A* - C/4 (neu gyfwerth)
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
  • Cymwysterau Lefel 3 perthnasol eraill
  • Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch berthnasol gan sefydliad addysg bellach a gymeradwywyd
  • Profiad gwaith perthnasol
  • Cymhwyster rhyngwladol sy'n gyfwerth â'r uchod

Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion mynediad safonol ond sydd â phrofiad perthnasol. Mewn achosion o'r fath caiff ymgeiswyr eu cyfweld, ac ystyrir teilyngdod pob cais yn unigol yn unol â pholisi Grŵp Llandrillo Menai.

Croesewir myfyrwyr aeddfed ac asesir addasrwydd yn y cam cyfweld.

Mewn rhai achosion bydd BTEC L3 mewn Peirianneg yn cael ei gynnig fel cwrs pontio am 1 flwyddyn academaidd.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Tiwtorialau
  • Gweithdai
  • Gwaith labordy
  • Dysgu myfyriwr ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Amserlen

Rhan-amser: 2 blynedd

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Grace Gregson (Gweinyddiaeth - Llandrillo): gregso1g@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg
  • Cyflwyniadau
  • Aseiniadau ymarferol
  • Portffolio

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Datblygwyd Diplomau Cenedlaethol Uwch BTEC mewn Peirianneg Gyffredinol fel eu bod yn cynnig datblygiad gyrfaol ac yn cael eu cydnabod gan gyrff proffesiynol.

Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn cael y budd mwyaf o'u rhaglen astudio. Datblygwyd y cymhwyster ar sail trafodaethau/cyhoeddiadau perthnasol yr Enginneering Council UK (EC (UK)) a SEMTA (Science, Engineering and Manufacturing Technologies Alliance).

Yn dilyn cwblhau y cwrs yn llwyddiannus gallwch fod yn gymwys i wneud cais am fynediad Blwyddyn 2 ar y rhaglen Prentisiaeth Gradd a ariennir neu barhau â'u hastudiaethau tuag at Ddiploma Cenedlaethol Uwch lefel 5 ar gampws Llandrillo yn Rhos.

Gwybodaeth am fodiwlau'r cwrs  Y Rhyl

Mae'r modiwlau'n cynnwys:

Dylunio Peirianneg
Meistroli egwyddorion dylunio o'r cysyniad i atebion peirianneg.

Mathemateg Beirianneg
Datblygu'r sgiliau mathemategol sylfaenol sy'n angenrheidiol ar gyfer dadansoddi peirianneg uwch.

Gwyddor Peirianneg
Archwilio egwyddorion peirianneg fecanyddol a thrydanol allweddol ar gyfer dadansoddi systemau.

CAD i Beirianwyr
Ennill hyfedredd mewn meddalwedd Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur i bontio cysyniadau dylunio â chymhwysiad ymarferol.

Prosiect
Dysgu sgiliau hanfodol ar gyfer rheoli prosiectau'n effeithiol mewn cyd-destun peirianneg.

Arferion Gweithdy Mecanyddol
Adeiladu sgiliau peirianneg ymarferol craidd trwy brofiad gweithdy mecanyddol trochol.

Rheoli Peirianneg
Cyflwyno egwyddorion rheoli sylfaenol a gymhwysir o fewn y diwydiant peirianneg.

Gwella Ansawdd a Phrosesau
Deall yr egwyddorion a'r dulliau hanfodol i wella ansawdd ac effeithlonrwydd prosesau peirianneg.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Lefel Prifysgol

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyrwyr yn gweithio ar gylchedau trydanol