Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) - Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai - Llwyn Brain, Parc Menai, Busnes@LlandrilloMenai - Parc Busnes Llanelwy
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
10-12 mis
Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) - Lefel 3Hyfforddiant rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac mae'n asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr i ymarfer wrth eu gwaith. Mae'n rhoi'r cyfle i gyfoethogi gwybodaeth a sgiliau ac yn gwneud hynny drwy ddefnyddio cynnwys gorfodol ac unedau dewisol. Bydd o ddiddordeb i ddysgwyr sy'n gweithio mewn gwasanaethau cymorth cartref, gofal preswyl, darpariaeth anabledd dysgu gan gynnwys gwasanaethau gofal iechyd yn y gymuned. Yn benodol, bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod:
- yn deall, ac yn gallu cymhwyso'n ymarferol, yr egwyddorion a'r gwerthoedd sy'n sail i iechyd a gofal cymdeithasol
- yn deall, ac yn gallu cymhwyso'n ymarferol, ddulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- yn hyrwyddo a chefnogi arfer effeithiol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- yn ymwybodol o bolisïau allweddol yn y sector ac yn deall sut mae'r rhain yn effeithio ar ddatblygu a darparu gwasanaethau
- yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol
- yn defnyddio ystod o dechnegau datrys problemau i fyfyrio ar arfer er mwyn parhau i wella'r defnydd o sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel y bo’n briodol yn eu rôl.
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar oedolion ar hyn o bryd, a gellir ei gyflwyno drwy ddysgu seiliedig ar waith neu goleg addysg bellach. Disgwylir bod gan ddysgwyr rywfaint o ymreolaeth yn eu rôl a'u bod yn cefnogi eraill i ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer:
- dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster Craidd
- dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- dysgwyr sydd wedi cwblhau cymwysterau etifeddol priodol sydd wedi'u cynnwys yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Rheoleiddiedig yng Nghymru.
Noder: Ni ellir ennill y cymhwyster hwn tra byddwch ar gyfnod profiad gwaith.
Gofynion mynediad
Rhaid i ddysgwyr fod yn gweithio ac yn cael eu cyflogi mewn sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac wedi cyflawni'r cymhwyster craidd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn flaenorol.
Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed a hŷn.
Rhaid cael cyfweliad gan y tîm Dysgu Seiliedig ar Waith.
Cyflwyniad
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno ar sail un i un.
Bydd tystiolaeth yn cael ei chasglu drwy dystiolaeth portffolio a thasgau strwythuredig.
Asesiad
Prif ddull asesu'r cymhwyster hwn yw arsylwi uniongyrchol ar arferion gwaith naturiol yn y gweithle, gan gynnwys adfyfyrio misol a pharhaus, tystiolaeth gan dystion a thrafodaethau a chwestiynau proffesiynol.
Rhaid cwblhau tasgau wedi'u pennu'n allanol hefyd.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys:
Mae cynnwys gorfodol y cymhwyster wedi'i alinio â themâu allweddol Fframwaith Sefydlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru Gyfan ac mae'n cynnwys:
- egwyddorion ac ymarfer
- diogelu
- iechyd a diogelwch
- iechyd a llesiant
- ymarfer proffesiynol
Dilyniant
Bydd cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i weithio gyda mwy o ymreolaeth a chyfrifoldeb fel Uwch Weithiwr Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 cymwysedig, gyda ffocws ar oedolion sy'n agored i niwed neu mewn angen.
Bydd hefyd yn helpu dysgwyr sydd angen gwneud cais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel Uwch Weithiwr Gofal, er y bydd angen bodloni gofynion cofrestru eraill hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://gofalcymdeithasol.cymru/cofrestru
Mae'r cymhwyster yn rhoi'r wybodaeth a'r cymhwysedd priodol i ymarfer a chefnogi dysgwyr i symud ymlaen i:
- Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Lefel 4
- Paratoi i Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Lefel 4
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Hyfforddiant rhan-amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: