Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) - Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai - Llwyn Brain, Parc Menai, Busnes@LlandrilloMenai - Parc Busnes Llanelwy
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
7-9 mis
Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) - Lefel 2Hyfforddiant rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
I bwy mae'n addas: Gweithwyr gofal, gweithwyr cymorth a chynorthwywyr gofal iechyd sydd eisoes â gwybodaeth sylfaenol - y cymhwyster craidd
- dysgwyr o 16 oed sy'n gweithio mewn rôl gefnogol gydag oedolion yn y sectorau Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Cymhwyster Craidd
- dysgwyr sydd eisoes yn gweithio yn y sectorau Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- dysgwyr sy'n dychwelyd i'r gweithle ar ôl seibiant gyrfa ac sy'n awyddus i ddiweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau
- dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau (Oedolion).
Anogir yn gryf fod dysgwyr wedi cwblhau'r cymhwyster craidd cyn, neu ochr yn ochr â'r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) gan fod hyn yn un o ofynion ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn nodwedd o'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Gofynion mynediad
Rhaid i ddysgwyr fod yn gweithio ac yn cael eu cyflogi mewn sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac wedi cyflawni'r cymhwyster craidd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn flaenorol.
Rhaid cael cyfweliad gan y tîm Dysgu Seiliedig ar Waith.
Cyflwyniad
Rhaid i'r dysgwr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
- portffolio o dystiolaeth sy'n cynnwys arsylwi ymarfer yn uniongyrchol
- tasgau a osodir yn allanol ac a asesir yn fewnol
Cyflawnir hyn drwy gefnogaeth Dysgu Seiliedig ar Waith un i un gan asesydd dynodedig.
Asesiad
Y math o asesiad: Mae'r cymhwyster hwn yn gymhwyster seiliedig ar fedrusrwydd. Bydd aseswyr yn eich gwerthuso'n uniongyrchol yn y gweithle trwy arsylwadau, trafodaethau proffesiynol, a thrwy adolygu portffolio o'ch gwaith.
Defnyddir adfyfyrio, cwestiynau, trafodaethau proffesiynol a chwestiynau ac atebion, gan gynnwys tystiolaeth gan dystion, fel rhan o'r amrywiaeth o ddulliau asesu a ddefnyddir i lunio portffolio o dystiolaeth a nodi deilliannau'r tasgau allanol.
Y pynciau craidd a drafodir:
- Ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a hyrwyddo annibyniaeth
- Iechyd a diogelwch, rheoli heintiau, a diogelu unigolion
- Cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant
Dilyniant
Mae cwblhau'r cymhwyster ymarferol hwn yn caniatáu i weithwyr ddangos eu bod yn bodloni safonau cofrestru proffesiynol (megis y rhai sy'n ofynnol gan Gofal Cymdeithasol Cymru). Mae'n rhoi cyfleoedd am swyddi mewn asiantaethau gofal yn y cartref, cartrefi nyrsio, a phrosiectau byw â chymorth. Gall hefyd fod yn gam ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Yn dilyn y cymhwyster hwn gall dysgwyr fynd ymlaen i:
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
- TAG Uwch a TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
- Paratoi i Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Lefel 4
- Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) - Lefel 4
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Hyfforddiant rhan-amser
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: