Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Prentisiaethau Uwch
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Math o gwrs:Prentisiaethau
- Dull astudio:Rhan amser
- Lefel:5
- Maes rhaglen:Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
- Hyd:
18 mis
- Dwyieithog:n/a
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r brentisiaeth hon wedi'i hanelu'n benodol at weithwyr a gyflogir mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn y sector cyhoeddus a phreifat, e.e. gofal preswyl, gofal cartref, gweithwyr cymorth a chynorthwywyr personol. Mae Prentisiaethau Uwch (lefel 5) ar gael i reolwyr profiadol, dirprwy reolwyr a goruchwylwyr sy'n gweithio ym maes Ymarfer Uwch - Gofal Oedolion, Rheoli Gofal Oedolion a Rheoli Gofal Preswyl i Oedolion.
Gofynion mynediad
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Bydd eich asesydd yn ymweld â chi o fewn eich gweithle yn rheolaidd a bydd hefyd yn cynnal arsylwadau uniongyrchol o'ch ymarfer yn ystod eich trefn arferol bob dydd.
- Byddwch yn mynychu sesiynau misol gyda'r nos.
- Bydd yr aseiniadau'n cael eu cwblhau i ffwrdd o'r ganolfan.
Asesiad
Ar bob lefel, mae'r unedau gorfodol yn cynnwys cymysgedd o unedau gwybodaeth ac unedau cymhwysedd.
Bydd rhaid cwblhau aseiniad gosod sydd yn ymdrin â'r unedau gwybodaeth.
Bydd yr unedau cymhwysedd yn gymysgedd o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, sy'n golygu bod rhaid i'r asesydd arsylwi rhyw ran o'r uned honno'n uniongyrchol, er mwyn gweld ymarfer y dysgwr yn y gweithle yn ystod drefn arferol.
Bydd y dysgwr yn cwblhau llyfr gwaith ar gyfer yr uned honno fel y trafodwyd ac y cytunwyd gyda'r asesydd.
Bydd prentisiaid yn mynychu sesiynau yn y coleg er mwyn cwblhau tasgau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol. Mae hyn yn rhan hanfodol o'r cymhwyster.
Dilyniant
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.
A hoffech chi wneud cais am y cwrs hwn?
Ar gyfer cyrsiau Prentisiaeth, rhaid cysylltu a Busnes@LlandrilloMenai ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.