Prentisiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
15 mis
Prentisiaethau mewn Iechyd a Gofal CymdeithasolPrentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r fframwaith hwn yn gymhwyster mynediad i weithwyr mewn amrywiaeth o swyddi, pob un yn gwneud tasgau generig a rhai yn gwneud sgiliau mwy arbenigol.
Mae'r fframwaith am ddenu gweithwyr iau i mewn i'r sector drwy'r cynllun prentisiaeth gan fod y gweithlu yn heneiddio ac angen gwaed newydd. Mae angen cynyddu'r nifer o staff sy'n siarad Cymraeg i wella'r gwasanaethau i ddefnyddwyr sydd am ddefnyddio'r Gymraeg.
Mae teitlau'r swyddi yn amrywio fesul cyflogwr ac yn cynnwys gweithwyr gofal iechyd, gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymorth, gweithwyr gofal cartref ac uwch swyddogion gofal.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ond mae profiad o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ddymunol.
- Rhaid bod yn 17½ oed.
- Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwr sy'n gallu gwneud y meini prawf NVQ.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Bydd y rhan fwyaf o'r hyfforddiant ar gael yn y gweithle
- Bydd gofyn i bob dysgwr fynd sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau theori a phrofion
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion yn seiliedig ar ddamcaniaethau
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3 ac i Brentisiaeth Uwch Lefel 5.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
2+3
Maes rhaglen:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dwyieithog:
n/aIechyd a Gofal Cymdeithasol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: