Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau mewn Trin Gwallt

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    18 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaethau mewn Trin Gwallt

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r fframwaith hwn yn cynnig prentisiaethau ar gyfer llwybr dysgu yn seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant gwaith trin gwallt, gan ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau a gwybodaeth.

Prentisiaethau ydy'r ffordd draddodiadol o hyfforddi rhai sy'n trin gwallt. Yn dibynnu ar y llwybr a ddilynir a'r lefel a gyflawnwyd, bydd dysgwyr sy'n cwblhau prentisiaethau yn ymgymryd â swyddi fel

  • Torrwr/Cynllunydd Gwallt Iau (Prentisiaeth Sylfaen)
  • Torrwr/Cynllunydd Gwallt (Prentisiaeth)

Gofynion mynediad

  • Nid oes rhaid cael cymwysterau ffurfiol, ond mae profiad ym maes Trin Gwallt a Harddwch yn ddymunol.
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwr sy'n gallu ymdrin â'r meini prawf NVQ.

Cyflwyniad

  • Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle
  • Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol
  • Nid yw'n hanfodol bod dysgwyr yn mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori. Mae'n bosibl cwblhau'r cymhwyster wrth ddysgu o bell. Os oes angen, bydd rhaid i chi fynd i sesiynau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg cyfleus.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion yn seiliedig ar theori

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

n/a

Trin Gwallt a Therapi Harddwch