GQA PAA/VQ-SET Level 3 Certificate in Polymer OperationsTystysgrif Lefel 3 GQA-PAA\VQ-SET mewn Gweithrediadau Polymer
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Safle cyflogwr
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 flynedd - 3 awr am un diwrnod bob mis yn ogystal ag astudio yn eich amser eich hun
GQA PAA/VQ-SET Level 3 Certificate in Polymer OperationsTystysgrif Lefel 3 GQA-PAA\VQ-SET mewn Gweithrediadau PolymerOedolion a Rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Cymhwyster NVQ Lefel 2 blaenorol mewn prosesu neu gynhyrchu polymerau a chyfweliad a asesir gan diwtor.
Mae'r Dystysgrif Lefel 3 GQA-PAA\VQ-SET mewn Gweithrediadau Polymer yn gymhwyster wedi'i reoleiddio a fwriadwyd i ddysgwyr sy'n gweithio yn y sector prosesu polymerau neu feysydd cysylltiedig. Bydd gennych eisoes gymhwyster NVQ2 yn y maes ac yn gyfrifol am weithgynhyrchu polymerau allwthiol neu a foldiwyd drwy chwistrellu. Byddwch am ddatblygu eich effeithlonrwydd a'ch gallu i ddatrys problemau ym maes prosesu polymerau a bydd hyn yn cynnwys digwyddiadau Kaizen a Poka-Yoke (atal camgymeriadau), rheoli ansawdd, cyflenwi mewn union amser (JIT), egwyddorion dangosyddion perfformiad allweddol ac ymwybyddiaeth o effaith ychwanegu proses ar gynhyrchiant.
Gofynion mynediad
Cymhwyster NVQ Lefel 2 blaenorol mewn prosesu neu gynhyrchu polymerau a chyfweliad a asesir gan diwtor.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs ar safle'r cyflogwr ac ar-lein a chewch hefyd gefnogaeth drwy Google Classroom i astudio yn eich amser eich hun.
Asesiad
Portffolio o dystiolaeth, arsylwi tasgau ymarferol a chyflwyno atebion ysgrifenedig i ddangos dealltwriaeth o'r wybodaeth sy'n greiddiol i'r cwrs.
Dilyniant
Gradd Sylfaen neu gymhwyster ILM mewn Rheoli.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Arbenigol / Arall