Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    30 wythnos, 3 awr yr wythnos

Cofrestru
×

TGAU Cymraeg Iaith

Oedolion a Rhan-amser

Online or Phone
Cwrs nos: 14/09/26, 5:30 YH | Cost: £235.00

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn annog dysgwyr i ddatblygu eu diddordeb a'u brwdfrydedd yn y Gymraeg, ac i'w galluogi i gyfrannu at gymdeithas ddwyieithog. Y nod yw datblygu hyder wrth gyfathrebu'n effeithiol, yn y Gymraeg ysgrifenedig a llafar.

Byddwch yn defnyddio a gwella eich sgiliau Darllen, Ysgrifennu, Siarad a Gwrando.

Llafaredd: Byddwch yn datblygu eich sgiliau siarad a gwrando trwy gydol y cwrs, mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. Byddwch yn cael eich asesu'n gwneud cyflwyniad neu sgwrs a byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp. Cofnodir y rhain gan eich tiwtor.

Darllen ac Ysgrifennu: Byddwch yn datblygu eich gallu i ysgrifennu ar gyfer amrediad o ddibenion a chynulleidfaoedd.

Gofynion mynediad

Mae angen dealltwriaeth dda o lythrennedd sylfaenol, felly bydd eich tiwtor yn cael sgwrs ar-lein gyda chi cyn dechrau'r cwrs.

Os yw'n briodol, byddwn yn argymell cwrs gwahanol cyn i chi gofrestru ar gyfer TGAU ac ad-dalu eich ffi cyrsiau.

Os ydych chi'n dymuno astudio'r cwrs hwn ar-lein, mae'r dechnoleg ganlynol yn ofynnol:

  • Gliniadur / Cyfrifiadur Personol / Dyfais tabled

  • Cysylltiad band eang sefydlog

  • Bydd disgwyl i chi gael camera a siaradwr gweithredol i gyfrannu'n llawn yn y wers

Bydd disgwyl i ddysgwyr ddefnyddio e-bost, Google Classroom ac o bosibl adnoddau ar-lein eraill a fydd yn cefnogi eu dysgu. Darperir cymorth i gael mynediad i'r rhain.

Ar gyfer dosbarthiadau ar-lein: rhaid i chi fyw o fewn mynediad rhwydd i gampws Grŵp Llandrillo Menai gan y bydd angen i chi fynychu campws i gynnal eich asesiadau a'ch arholiadau.

Ar gyfer dosbarthiadau ar-lein:

Rhaid i chi fyw o fewn mynediad rhwydd i gampws Grŵp Llandrillo Menai gan y bydd angen i chi fynychu campws i gynnal eich asesiadau a'ch arholiadau.

Cyflwyniad

  • Trafodaethau

  • Darllen ac ysgrifennu dadansoddol

  • Ymchwilio’n annibynnol

  • Gwaith grŵp

  • Dadlau

  • Gosodir gwaith cartref yn rheolaidd

Rhaid i chi gyrraedd o leiaf 85% o gyfradd presenoldeb ar y cwrs hwn.

Asesiad

Dau arholiad ysgrifenedig ac asesiad llafaredd.

Dyddiadau Arholiadau Dros Dro yw: Dydd Gwener 14 Mai 2027 (yp) a dydd Llun 14 Mehefin 2027 (yp).

Dilyniant

Gallech ddewis un o blith amryw o gyrsiau gwahanol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • TGAU

TGAU rhan-amser: Cwestiynau Cyffredin

Pa gyrsiau TGAU sydd ar gael a ble mae’r cyrsiau hyn yn cael eu cynnig?

  • Saesneg (Iaith) - Abergele, Llandrillo-yn-Rhos, Bangor, Ar-lein
  • Cymraeg (Iaith) – Ar-lein yn unig
  • Mathemateg - Abergele, Llandrillo-yn-Rhos, Bangor, Ar-lein
  • Bioleg - Llandrillo-yn-Rhos

Am faint o’r gloch mae’r cyrsiau TGAU?

Bydd dyddiad a lleoliad y cyrsiau TGAU rhan-amser ar gael ar y wefan (Mai/Mehefin bob blwyddyn).

Faint fydd cost y cyrsiau?

Cyfanswm y gost yw £235. Mae ffi dysgu yn £190 a’r mae'r ffi arholiad yn £45.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael consesiwn ar y ffi dysgu.

Sut galla i ganfod ydw i’n gymwys i dderbyn gostyngiad?

Ewch i’r dudalen Ffioedd a Gostyngiadau i gael rhagor o wybodaeth.

Beth yw’r broses o wneud cais ar gyfer cwrs TGAU rhan-amser?

Gwneir cais i ddilyn cwrs TGAU rhan-amser ar ein gwefan.

Sut mae talu am fy nghwrs TGAU?

Bydd rhywun o’r coleg yn cysylltu â chi i wneud taliad diogel dros y ffôn.

Rydw i’n iau na 16 oed, alla i gwblhau fy nghyrsiau TGAU yn y coleg?

Nac ydy, dim ond i bobl sydd wedi gorffen addysg statudol neu sydd yn 16 oed neu'n hŷn ar ddechrau'r cwrs y gallwn ni gynnig TGAU.

Rydw i wedi cofrestru ar gwrs llawn amser, alla i ailsefyll fy arholiad TGAU hefyd?

Mae gan gyrsiau amser llawn eu rhaglen TGAU eu hunain. Nid oes angen i chi wneud cais i wneud y rhain gan y bydd eich tiwtoriaid yn eich cynghori ynghylch y TGAU/ESW gorau i fodloni gofynion eich cwrs.

Os ydych wedi gwneud cais am gwrs amser llawn, peidiwch â gwneud cais am TGAU rhan-amser drwy'r wefan.

Hoffwn wneud cais ar gyfer y cwrs TGAU mewn Rhifedd neu Fathemateg. Sut byddaf yn gwybod bod fy sgiliau mathemateg yn ddigon da i ymdopi â’r cwrs?

Byddwch yn gofyn i chi gwblhau asesiad byr pan fyddwch wedi cofrestru.

Os ydym yn teimlo bod angen i ni eich cyfeirio at gwrs mwy priodol, byddwn yn cysylltu â chi i drafod hyn ymhellach ac ad-dalu eich ffioedd.

Yr unig gwrs nad oes angen asesiad arno yw'r TGAU Bioleg.

Beth yw lefel TGAU Mathemateg alla i ennill gradd C?

Bydd y papur canolradd yn caniatáu i chi ennill graddau rhwng E a B. Os yw eich tiwtor yn teimlo y gallech ennill gradd uwch na gradd B mi fydd yn trafod y posibilrwydd o’ch cofrestru i gwblhau papur haen uwch.

Hoffwn wneud cais ar gyfer y cwrs TGAU Cymraeg (Ail Iaith). A yw’r cwrs hwn yn addas i rywun â dealltwriaeth cyfyngedig o’r Gymraeg?

Mae angen dealltwriaeth dda o Gymraeg sylfaenol. Byddwn yn gofyn i chi gwblhau asesiad byr cyn i chi gofrestru. Bydd hyn yn ein helpu i ddod o hyd i'r cwrs sydd fwyaf addas i chi.

Hoffwn gwblhau fy mhwrs TGAU ar-lein - pa offer fydd ei hangen arnaf?

Byddwch angen mynediad i gyfrifiadur personol, gliniadur neu chromebook a gwasanaeth rhyngrwyd dibynadwy. Dylai bod gwe gamera, microffon a seinydd ar eich dyfais er mwyn i chi fedru cymryd rhan lawn yn y wers.

Bydd angen i chi fynychu campws o hyd i sefyll asesiadau allweddol ac arholiadau terfynol, felly mae'n rhaid i chi fyw o fewn pellter teithio i gampws GLLM.

Mae gennyf ddiddordeb mewn dilyn cwrs TGAU mewn Bioleg, ydy’r cwrs hwn ar gael ar-lein?

Nac ydy. Mae angen cwblhau elfennau ymarferol yn ystod y cwrs a dim ond ar y campws mae’r rhain ar gael.

Mae cwestiwn gennyf o hyd am y TGAU, alla i siarad â rhywun?

Cysylltwch â’r adran Cyngor ac Arweiniad i drafod eich ymholiad ymhellach.

Rydw i wedi gwneud cais ac wedi talu am gwrs TGAU ar-lein fydd yn dechrau fis Medi. Pryd bydda i’n derbyn rhagor o wybodaeth am ddyddiad dechrau ac oriau’r cwrs a sut bydda i’n cael mynediad ato?

Bydd eich tiwtor yn cysylltu’n uniongyrchol a chi ac mi gewch gyngor am yr holl wybodaeth angenrheidiol cyn dechrau ar y cwrs. Mae’n bwysig iawn bod eich cyfeiriad e-bost gennym oherwydd dyma sut bydd y tiwtor yn anfon gwybodaeth bwysig atoch chi.

Ydi hi’n bosib i mi sefyll arholiad TGAU fel ymgeisydd allanol, heb ddilyn y dosbarthiadau?

Nac ydy, nid ydym yn derbyn ymgeiswyr allanol i sefyll TGAU yma. Er mwyn sefyll unrhyw arholiad TGAU yn y coleg, rhaid i chi gofrestru ar y cwrs.

Rydw i’n ystyried dilyn cwrs TGAU ar-lein, ble bydda i’n sefyll yr arholiad?

Ar ddechrau’r cwrs, bydd eich tiwtor yn gofyn i chi nodi ar ba gampws hoffech chi sefyll yr arholiad. Gallwch ddewis y campws sy’n lleol i ble rydych chi’n byw. Cewch ddewis o’r canlynol: Bangor, Dolgellau, Glynllifon, Llangefni, Pwllheli, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl.

Oes dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gwrs TGAU ar-lein?

Unwaith bydd y cwrs yn llawn neu’r dyddiad dechrau wedi pasio, bydd y cwrs yn cael ei dynnu oddi ar y wefan.

TGAU

Dau fyfyriwr yn gweithio ar liniadur