Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    30 wythnos, 3 awr yr wythnos

Cofrestrwch
×

TGAU Llenyddiaeth Saesneg

Cyrsiau Rhan-amser

Mae cyrsiau ar gyfer 23/24 bellach yn llawn. Ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2024, bydd ceisiadau ar agor o fis Mehefin 2024 ymlaen.

Cyfeiriwch at ein Cwestiynau Cyffredin ar waelod y dudalen hon a allai ateb rhai cwestiynau i chi.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi astudio amrywiaeth o destunau llenyddol? Hoffech chi feithrin sgiliau dadansoddi a gwerthfawrogi beirniadol?

Ar y cwrs hwn, cewch astudio gweithiau llenyddol pwysig. Bydd hefyd yn meithrin eich sgiliau fel darllenydd a beirniad llenyddol gwybodus ac annibynnol.

Felly, os ydych yn ddarllenwr brwd ac yn mwynhau trafod, ymunwch yn y ddadl a dewch i astudio Llenyddiaeth Saesneg!

At bwy mae'r cwrs wedi'i anelu?

Unrhyw un â diddordeb mewn cael cymhwyster TGAU neu'n dymuno gwella'u gradd flaenorol yn y pwnc, neu unrhyw un sydd am astudio testunau llenyddol allweddol.

Meysydd Allweddol y byddwch yn eu hastudio:

  • Cerddi cyfoes

  • Beirdd Cymreig sy'n ysgrifennu yn y Saesneg.

  • Rhyddiaith o wahanol ddiwylliannau,

  • Un ddrama Shakespeare,

  • Drama gyfoes a rhyddiaith nad yw'n gyfoes

Gofynion mynediad

Rhaid i ymgeiswyr ddangos diddordeb mewn ac angerdd at lenyddiaeth.

Rhaid i chi fyw o fewn mynediad rhwydd i gampws Grŵp Llandrillo Menai gan y bydd angen i chi fynychu campws i gynnal eich asesiadau a'ch arholiadau.

Cyflwyniad

  • Dysgu yn y dosbarth

  • Trafodaethau

  • Darllen ac ysgrifennu dadansoddol

  • Ymchwilio’n annibynnol

  • Gwaith grŵp

  • Dadlau

  • Gosodir gwaith cartref yn rheolaidd

Bydd disgwyl i ddysgwyr ddefnyddio e-bost, Google Classroon ac o bosibl adnoddau ar-lein eraill a fydd yn cefnogi eu dysgu. Darperir cymorth i gael mynediad i'r rhain.

Asesiad

Dau asesiad di-arholiad a dau bapur arholiad.

Dilyniant

Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • TGAU

Dwyieithog:

n/a

TGAU rhan-amser: Cwestiynau Cyffredin

Pa gyrsiau TGAU sydd ar gael a ble mae’r cyrsiau hyn yn cael eu cynnig?

  • Saesneg (Iaith) - Abergele, Bangor, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, ar-lein
  • Llenyddiaeth Saesneg - Abergele yn unig
  • Cymraeg (Ail Iaith) –ar-lein yn unig
  • Mathemateg - Bangor, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, ar-lein
  • Mathemateg (Rhifedd) - Abergele, Bangor, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, ar-lein
  • Bioleg - Bangor (dros dro), Llandrillo-yn-Rhos a'r Rhyl

Am faint o’r gloch mae’r cyrsiau TGAU?

Bydd dyddiad a lleoliad y cyrsiau TGAU rhan-amser ar gael ar y wefan (Mai/Mehefin bob blwyddyn).

Faint fydd cost y cyrsiau?

Cyfanswm y gost ydy £120. Mae’r ffi dysgu’n £80 a’r ffi arholiad yn £40.

Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn gostyngiad.

Sut galla i ganfod ydw i’n gymwys i dderbyn gostyngiad?

Ewch i’r dudalen Ffioedd a Gostyngiadau i gael rhagor o wybodaeth.

Beth yw’r broses o wneud cais ar gyfer cwrs TGAU rhan-amser?

Gwneir cais i ddilyn cwrs TGAU rhan-amser ar ein gwefan.

Sut mae talu am fy nghwrs TGAU?

Bydd rhywun o’r coleg yn cysylltu â chi i wneud taliad diogel dros y ffôn.

Rydw i’n iau na 16 oed, alla i gwblhau fy nghyrsiau TGAU yn y coleg?

Os ydych yn derbyn eich addysg gartref yn hytrach na mewn sefydliad addysg statudol gallwch ddod i ddosbarthiadau TGAU yn y coleg. Bydd gofyn i chi ddod â hebryngwr addas gyda chi i bob gwers. Codir tâl ar raddfa arferol y coleg.

Cyn cofrestru rydym yn awgrymu bod eich rhieni yn cysylltu â Gwasanaethau Dysgwyr am ragor o wybodaeth.

Rydw i wedi cofrestru ar gwrs llawn amser, alla i ailsefyll fy arholiad TGAU hefyd?

Gallwch. Os ydych chi wedi ennill gradd D, byddwn yn eich cofrestru i ailsefyll yr arholiad TGAU priodol. Os yw eich gradd yn is na gradd D, byddwn yn eich cofrestru ar raglen Sgiliau Hanfodol priodol er mwyn eich cynorthwyo i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i gael mynediad at TGAU yn y dyfodol. Os yw eich gradd yn radd C neu uwch ac os hoffech wella’r radd honno cewch gyfle i wneud hynny.

Hoffwn wneud cais ar gyfer y cwrs TGAU mewn Rhifedd neu Fathemateg. Sut byddaf yn gwybod bod fy sgiliau mathemateg yn ddigon da i ymdopi â’r cwrs?

Gall ein tiwtoriaid gynnal asesiad os ydych chi’n poeni y byddwch chi’n cael trafferth gyda chynnwys y cwrs TGAU. Yn dilyn hynny mi fyddan nhw’n trafod hyn â chi ac yn eich cyfeirio at gwrs Mathemateg mwy addas. Bydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau cyn dychwelyd i ddilyn cwrs TGAU yn y dyfodol.

Beth yw lefel TGAU Mathemateg/Rhifedd, alla i ennill gradd C?

Bydd y papur canolradd yn caniatáu i chi ennill graddau rhwng E a B. Os yw eich tiwtor yn teimlo y gallech ennill gradd uwch na gradd B mi fydd yn trafod y posibilrwydd o’ch cofrestru i gwblhau papur haen uwch.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng TGAU Mathemateg a TGAU Rhifedd?

Bydd TGAU Mathemateg - Rhifedd yn asesu’r fathemateg y bydd gofyn i chi ei defnyddio mewn bywyd bob dydd ac yn y byd gwaith. Bydd TGAU Mathemateg yn ymestyn i’r agweddau mathemateg sy’n ofynnol i fynd ymlaen i astudiaethau mathemategol, gwyddonol neu dechnegol pellach. Os oes gennych unrhyw lwybr dilyniant mewn golwg, dylech drafod beth yw eu gofynion penodol.

Hoffwn wneud cais ar gyfer y cwrs TGAU Cymraeg (Ail Iaith). A yw’r cwrs hwn yn addas i rywun â dealltwriaeth cyfyngedig o’r Gymraeg?

E.e. dim ond yn gyfarwydd â’r wyddor Gymraeg, geiriau sylfaenol, diwrnodau’r wythnos, misoedd a rhifau? Neu ydych chi wedi cael gwybod eich bod yn meddu ar ddealltwriaeth dda o’r iaith.

Bydd gofyn i chi feddu ar ddealltwriaeth dda o Gymraeg sylfaenol. Os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â ni a gallwn drefnu i chi gael sgwrs anffurfiol gydag un o’r tiwtoriaid.

Hoffwn gwblhau fy mhwrs TGAU ar-lein - pa offer fydd ei hangen arnaf?

Byddwch angen mynediad i gyfrifiadur personol, gliniadur neu chromebook a gwasanaeth rhyngrwyd dibynadwy. Dylai bod gwe gamera, microffon a seinydd ar eich dyfais er mwyn i chi fedru cymryd rhan lawn yn y wers.

Bydd angen i chi fynychu campws o hyd i sefyll asesiadau allweddol ac arholiadau terfynol, felly mae'n rhaid i chi fyw o fewn pellter teithio i gampws GLLM.

Mae gennyf ddiddordeb mewn dilyn cwrs TGAU mewn Bioleg, ydy’r cwrs hwn ar gael ar-lein?

Nac ydy. Mae angen cwblhau elfennau ymarferol yn ystod y cwrs a dim ond ar y campws mae’r rhain ar gael.

Mae cwestiwn gennyf o hyd am y TGAU, alla i siarad â rhywun?

Cysylltwch â’r adran Cyngor ac Arweiniad i drafod eich ymholiad ymhellach.

Rydw i wedi gwneud cais ac wedi talu am gwrs TGAU ar-lein fydd yn dechrau fis Medi. Pryd bydda i’n derbyn rhagor o wybodaeth am ddyddiad dechrau ac oriau’r cwrs a sut bydda i’n cael mynediad ato?

Bydd eich tiwtor yn cysylltu’n uniongyrchol a chi ac mi gewch gyngor am yr holl wybodaeth angenrheidiol cyn dechrau ar y cwrs. Mae’n bwysig iawn bod eich cyfeiriad e-bost gennym oherwydd dyma sut bydd y tiwtor yn anfon gwybodaeth bwysig atoch chi.

Ydi hi’n bosib i mi sefyll arholiad TGAU fel ymgeisydd allanol, heb ddilyn y dosbarthiadau?

Nac ydy, nid ydym yn derbyn ymgeiswyr allanol i sefyll TGAU yma. Er mwyn sefyll unrhyw arholiad TGAU yn y coleg, rhaid i chi gofrestru ar y cwrs.

Rydw i’n ystyried dilyn cwrs TGAU ar-lein, ble bydda i’n sefyll yr arholiad?

Ar ddechrau’r cwrs, bydd eich tiwtor yn gofyn i chi nodi ar ba gampws hoffech chi sefyll yr arholiad. Gallwch ddewis y campws sy’n lleol i ble rydych chi’n byw. Cewch ddewis o’r canlynol: Bangor, Dolgellau, Glynllifon, Llangefni, Pwllheli, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl.

Oes dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gwrs TGAU ar-lein?

Unwaith bydd y cwrs yn llawn neu’r dyddiad dechrau wedi pasio, bydd y cwrs yn cael ei dynnu oddi ar y wefan.

TGAU

Dau fyfyriwr yn gweithio ar liniadur