Mynediad i Sgiliau a Gwaith
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Tŷ Cyfle - Caergybi
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
17 wythnos. Dydd Llun a Ddydd Mawrth, 9:30am - 3pm.
Mynediad i Sgiliau a GwaithOedolion a Rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer y rhai sy'n barod i ddechrau gyrfa newydd.
P'un a ydych chi:
heb waith ar hyn o bryd
wedi bod yn gofalu am deulu
yn chwilio am eich cam nesaf
heb fod mewn cyflogaeth erioed
Byddwch yn dysgu:
Sgiliau craidd yn y gweithle: Adnewyddu sgiliau cyfathrebu a TG
Sgiliau menter
Sgiliau meithrin hyder
Bydd gennych hefyd y cyfle i gymryd rhan mewn lleoliad gwaith.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Cyflwyniad
Cynhelir y gwersi yn y dosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dysgu. Dewisir y rhain ar sail anghenion unigol y myfyrwyr ym mhob grŵp.
Asesiad
Bydd yr asesiad drwy waith cwrs.
Dilyniant
Symud ymlaen i gyrsiau eraill o fewn y coleg:
SHC Cymhwyso Rhif / Cyfathrebu
TGCh Uwch
Cymwysterau galwedigaethol (Mewn cyflogaeth)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Cyrsiau Rhan-amser Am Ddim
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Sgiliau ar gyfer gwaith
Sgiliau ar gyfer gwaith