Datblygu Gemau
Y diwydiant gemau yw un o sectorau creadigol mwyaf deinamig y DU, ac un o'r rhai sy'n tyfu cyflymaf, gan gynhyrchu biliynau mewn refeniw a chynnig gyrfaoedd amrywiol a gwerth chweil i'r rhai sydd â'r sgiliau i adeiladu, i ddylunio ac i arloesi.
P'un ag ydych yn awyddus i weithio mewn stiwdio annibynnol, i gyhoeddwyr byd-eang neu hyd yn oed i lansio eich stiwdio eich hun, mae datblygu gemau yn cynnig llwybr cyffrous i'r rhai sy'n angerddol am brofiadau rhyngweithiol, adrodd straeon a chreadigrwydd digidol.
Rydym yn cynnig llwybr dilyniant clir mewn datblygu gemau yma yng ngogledd Cymru - o'n cwrs Lefel 2 yr holl ffordd i fyny i Lefel Gradd Anrhydedd. P'un a ydych chi'n camu i'r diwydiant am y tro cyntaf, neu'n awyddus i wella'ch sgiliau, mae ein cyrsiau'n mynd â chi o ddysgu am hanfodion celf 3D a dylunio gemau hyd at ddatblygiad uwch a chreu darnau portffolio proffesiynol.
Caiff ein cyrsiau gemau eu cyflwyno mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf gyda chaledwedd a meddalwedd o safon y diwydiant, dan arweiniad tiwtoriaid sydd â phrofiad datblygu yn y byd go iawn. Fel myfyriwr, cewch ddefnyddio gonsolau gemau, pensetiau VR/AR (gan gynnwys HoloLens ac Oculus Rift), argraffwyr 3D, tabledi graffeg Wacom, a labordai cyfrifiadurol pwrpasol sy'n rhedeg offer proffesiynol gan gynnwys Unreal Engine, Unity, Maya, Blender, Adobe Creative Suite, a mwy.
Cliciwch ar y dolenni isod i chwarae gemau a darnau portffolio wedi'u creu gan ein dysgwyr:
Gallai gyrfa mewn datblygu gemau gynnwys:
- Dylunydd Gemau
- Datblygwr / Rhaglennydd Gemau
- Artist / Animeiddiwr 3D
- Dylunydd Lefelau
- Dylunydd UI/UX ar gyfer Gemau
- Artist Technegol
- Dylunydd Naratif
- Sylfaenydd Stiwdio Annibynnol
- A llawer mwy!
O greu eich gêm gyntaf ar y cwrs Lefel 2, i raddio gyda phortffolio llawn i'ch helpu i sicrhau swydd; mae ein llwybr datblygu gemau yn rhoi'r sgiliau, yr offer, a'r cysylltiadau sydd eu hangen arnoch i fynd y cam ychwanegol.
Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?
Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau
Lefel 1 hyd at gyrsiau
lefel Gradd.
Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.