Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdSc) Cyfrifiadura (Rhwydweithio)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn-amser: 2 flynedd NEU Rhan-amser: 4 blynedd. Hefyd ar gael ar sail fodiwlaidd.

  • Cod UCAS:
    M649
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdSc) Cyfrifiadura (Rhwydweithio)

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa heriol ym maes rhwydweithiau cyfrifiadurol?

Mae cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd yn rhan annatod o'n bywyd pob dydd ac o fyd busnes. Mae galw cynyddol am weithwyr sydd â sgiliau adeiladu a chynnal a chadw'r rhwydweithiau yr ydym oll yn dibynnu arnynt.

Bydd y cwrs hwn, sy'n cynnwys cwricwlwm poblogaidd Cisco CCNA®, yn eich paratoi i fod yn un o'r arbenigwyr hynny.

Os ydych wedi dilyn cwrs Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol (gorau oll os yw ym maes Cyfrifiadura), mae'r cwrs hwn yn addas i chi.

Yn ogystal â rhoi gwybodaeth fanwl i chi am rwydweithio cyfrifiadurol, mae'r cwrs yn cynnwys amrediad eang o sgiliau cyfrifiadurol eraill, fel rhaglennu, cronfeydd data a rheoli prosiectau.

Yn ogystal â'r sgiliau cyfrifiadurol arbenigol hyn, cewch hefyd ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, fel gweithio mewn tîm, rheoli'ch hun, ymwybyddiaeth o fyd busnes a datrys problemau, sy'n anhepgor yn yr oes brysur sydd ohoni heddiw.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn elwa ar amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf, y dechnoleg ddiweddaraf, cyfleusterau cyfrifiadurol mynediad agored a chefnogaeth wych gan diwtoriaid.

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Systemau Cyfrifiadurol
  • Dylunio a Rheoli Cronfeydd Data
  • Cyflogaeth yn y Diwydiant Cyfrifiadura
  • Cyflwyniad i Rwydweithiau
  • Cyflwyniad i Raglennu
  • Hanfodion Rhwydwaith Ardal Leol
  • Hanfodion Systemau Gweithredu

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Systemau Gweithredu Uwch
  • Prosiect Ymchwil yn gysylltiedig â'r Diwydiant Cyfrifiadura
  • Seiberddiogelwch a Thechnolegau'r Dyfodol
  • Prosiect Cyflogadwyedd
  • Rhwydweithio a Diogelwch yn gysylltiedig â Mentergarwch
  • Diogelwch Rhwydwaith
  • Rheoli Prosiectau i rai sy'n gweithio ym maes Cyfrifiaduron

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion academaidd:

  • o leiaf 72 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
  • Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol

Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Ystyrir mynediad i Lefel 5 ar sail unigol, yn unol â pholisïau Grŵp Llandrillo Menai o ran derbyn myfyrwyr.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Gofynion ieithyddol:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd rhyngweithiol
  • Gweithdai ymarferol
  • Trafodaethau / gweithgareddau grŵp
  • Siaradwyr Gwadd
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Byddwch yn dysgu mewn modd cyfranogol ac anffurfiol, gan gael digon o gyfle i archwilio ar eich liwt eich hun a bod yn greadigol. Mae'n bosibl hefyd y cewch brofiad gwaith yn y maes yn ystod y cwrs.

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen

  • Llawn amser: 2 flynedd, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
  • Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Bydd arnoch angen cyfrifiadur neu liniadur yn eich cartref ynghyd â gwasanaeth rhyngrwyd dibynadwy.

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Mark Roberts (Rhaglen Arweinydd): robert19m@gllm.ac.uk

David Clarke (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau ymarferol ac aseiniadau wedi'u seilio ar theori
  • Asesiadau i'w gwneud mewn amser penodol
  • Adroddiadau
  • Cyflwyniadau llafar
  • Gweithio ar brosiect
  • Portffolios
  • Asesiad yn y gweithle
  • Aseiniadau grŵp/tîm
  • Llyfrau log a gwaith adfyfyriol

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Yn y gorffennol, aeth rhai o'n graddedigion ym maes Cyfrifiadura ymlaen i weithio mewn amrywiaeth eang o sefydliadau fel y sector cyhoeddus, byd addysg a busnesau. Mae ar y rhain i gyd angen unigolion sydd â sgiliau lluosog i gynnal a chadw a rheoli eu seilwaith TG. Sefydlodd eraill eu busnesau eu hunain.

Gallwch hefyd ddewis dal ati i astudio er mwyn ennill gradd BSc Anrhydedd. Cewch wneud hynny'n llawn amser neu'n rhan-amser er mwyn cyfuno gwaith ac astudio.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r cwrs hwn yn cyfuno sgiliau cyfrifiadura cyffredinol â modiwlau arbenigol sy'n canolbwyntio ar ddylunio, ffurfweddu a rheoli rhwydweithiau.

Am bob 10 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol.

Mae'r cyfuniad hwn o fodiwlau'n arwain at Radd Sylfaen (FdSc) mewn Cyfrifiadura (Rhwydweithio).

Mae cwrs Gradd Sylfaen arall ar gael sy'n arbenigo mewn Datblygu Meddalwedd.

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Systemau Cyfrifiadurol (10 credyd, gorfodol):
Mae systemau cyfrifiadurol modern yn dod ar sawl ffurf ac yn cael eu defnyddio ym mhob amgylchedd; yn y gwaith, yn y cartref ac i hamddena. Bydd y modiwl hwn yn rhoi i chi ddealltwriaeth angenrheidiol o'r holl gydrannau caledwedd a meddalwedd sy'n gwneud i system gyfrifiadurol weithio. (Portffolio 60% / Asesiad Cyfyngiad Amser 40%)

Dylunio a Rheoli Cronfeydd Data (20 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn rhoi i ddysgwyr y sgiliau sy'n angenrheidiol i ddylunio, creu a chynnal cronfa ddata berthynol. Yna, bydd y sgiliau y bydd y dysgwyr yn eu meithrin yn eu helpu i ymuno ag amgylchedd sy'n cynnal cronfa ddata fasnachol ac i weinyddu'r system yn unol â gofynion y diwydiant. (Adroddiad 20% / Gwaith ymarferol 40% / Asesiad Cyfyngiad Amser 40%)

Cyflogaeth yn y Diwydiant Cyfrifiadura (20 credyd, craidd):
Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth dysgwyr am y sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant cyfrifiadura. Bydd yn datblygu eu gwybodaeth am wahanol fodelau gweithio ynghyd â meithrin eu sgiliau o ran dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth yn y sector. (Adroddiad 80% / Myfyrdod 20%)

Cyflwyniad i Rwydweithiau (20 credyd, craidd):
Yn y modiwl hwn, defnyddir adran "Cyflwyniad i Rwydweithiau" cwrs Cisco CCNA mewn Llwybro a Switsio i gyflwyno saernïaeth, strwythur, swyddogaethau, cydrannau, a modelau'r Rhyngrwyd a rhwydweithiau cyfrifiadurol. (Adroddiad 30% / Asesiad Cyfyngiad Amser 40% / Gwaith ymarferol 30%)

Cyflwyniad i Raglennu (20 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno dysgwyr i'r cysyniadau sylfaenol a ddefnyddir wrth ddatblygu rhaglenni cyfrifiadurol gan ddefnyddio iaith ddatblygu briodol e.e. Java, Python neu Visual Basic. Bydd dysgwyr yn dod i ddeall y broses o greu rhaglenni o archwilio'r broblem gychwynnol i ddylunio a datblygu datrysiad terfynol. (Gwaith ymarferol 100%)

Hanfodion Rhwydwaith Ardal Leol (20 credyd, craidd):
Defnyddio adran "Switsio, Llwybro a Dyfeisiau Di-wifr" cwrs CCNA Cisco mae'r modiwl hwn yn bennaf ac mae'n canolbwyntio ar dechnolegau switsio a gweithrediadau llwybro sy'n cefnogi rhwydweithiau busnesau bach a chanolig ac mae'n cynnwys cysyniadau rhwydweithiau ardal leol (WLAN) a diogelwch. (Adroddiad 30% / Asesiad Cyfyngiad Amser 40% / Gwaith ymarferol 30%)

Hanfodion Systemau Gweithredu (10 credyd, gorfodol):
Mae cael staff hyfforddedig sydd â gwybodaeth o systemau cyfrifiadurol yn hanfodol i fusnesau ledled y byd. Fodd bynnag, er mwyn i'r caledwedd weithio mae'n rhaid wrth ddarn cymhleth o feddalwedd sef y system weithredu. (Adroddiad 40% / Gwaith ymarferol 60%)

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Systemau Gweithredu Uwch (10 credyd, gorfodol):
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar uwch nodweddion systemau gweithredu Microsoft a Linux. Mae llawer o'r nodweddion yn cael eu cymryd yn ganiataol ac maent yn gweithio'n rhwydd y rhan fwyaf o'r amser. Ond pan fydd problemau'n codi, gall gwybod pa offer i'w defnyddio a pha feysydd penodol i edrych arnynt sicrhau bod y system yn cael ei hadfer yn fuan. (Adroddiad 50% / Portffolio 50%)

Prosiect Ymchwil yn gysylltiedig â'r Diwydiant Cyfrifiadura (20 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddefnyddio amrediad o sgiliau ymchwilio priodol wrth astudio Cyfrifiadura. Drwy gyfrwng traethawd estynedig micro, bydd y modiwl yn eu paratoi i astudio ymhellach ar Lefel 6, neu i gael gyrfa fel ymchwilydd. (Adroddiad 90% / Cyflwyniad 10%)

Seiberddiogelwch a Thechnolegau'r Dyfodol (20 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth o sut mae angen cymhwyso ystyriaethau'n ymwneud â diogelwch a moeseg i'r ffordd y caiff technolegau cyfrifiadurol eu cyflwyno a'u defnyddio. Bydd yn trafod gofynion cyfreithiol ac yn edrych ar safonau cyfrifiadura a diogelwch. (Adroddiad 70% / Cyflwyniad 30%)

Prosiect Cyflogadwyedd (20 credyd, gorfodol):
Yn y modiwl hwn mae'r dysgwyr yn cael cyfle i gymhwyso'r sgiliau a'r wybodaeth a ddysgwyd ganddynt ar Lefel 4 i leoliad gwaith neu brosiect (neu efelychiad) addas. (Adroddiad 10% / Gwaith ymarferol 70% / Myfyrdod 20%)

Rhwydweithio a Diogelwch yn gysylltiedig â Mentergarwch (20 credyd, craidd):
Defnyddio adran "Rhwydweithio, Diogelwch ac Awtomeiddio'n gysylltiedig â Mentergarwch" cwrs CCNA Cisco mae'r modiwl hwn yn bennaf ac mae'n trafod y technolegau Rhwydwaith Ardal Eang (WAN) a'r mecanweithiau ansawdd gwasanaeth (QoS) a ddefnyddir i sicrhau cyrchiadau pell ynghyd â chyflwyno rhwydweithio meddalwedd ddiffiniedig, delweddu a chysyniadau awtomeiddio sy'n cefnogi digideiddio rhwydweithiau. (Adroddiad 30% / Asesiad Cyfyngiad Amser 40% / Gwaith ymarferol 30%)

Diogelwch Rhwydwaith (20 credyd, gorfodol):
Oherwydd bod y rhan fwyaf o sefydliadau nawr yn ddibynnol ar dechnoleg gwybodaeth, mae effaith ymyriad neu niwed i ddata neu systemau'n ddamweiniol neu'n fwriadol yn debygol o fod yn enfawr. Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i ystod eang o ffactorau mewn ymarferion ymarferol, trafodaeth grŵp ac ymchwil, sy'n rhaid eu hystyried wrth ymgeisio i ddiogelu rhwydwaith a data. (Adroddiad 60% / Portffolio 40%)

Rheoli Prosiectau i rai sy'n gweithio ym maes Cyfrifiaduron (10 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno dysgwyr i'r prif gysyniadau sy'n gysylltiedig â rheoli prosiectau. Bydd y dysgwyr yn astudio'r prif fethodolegau a ddefnyddir i reoli prosiectau ym maes busnes heddiw. Drwy'r modiwl hwn bydd y dysgwyr yn dod i ddeall gofynion ymarferol sy'n gysylltiedig â rheoli prosiectau drwy edrych ar y prif gamau mae prosiectau'n mynd trwyddynt fel arfer. (Adroddiad 40% / Astudiaeth Achos 60%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
  • International

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser