Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli ym maes Twristiaeth
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
- Hyd:
Llawn amser: 2 flynedd; Rhan-amser: 4 blynedd. Hefyd ar gael ar sail fodiwlaidd.
- Cod UCAS:NN2T
Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli ym maes TwristiaethGraddau (Addysg Uwch)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Gan fod y cyrsiau hyn yn y broses o gael eu datblygu maent yn amodol ar ddilysiad a chymeradwyaeth ar gyfer mis Medi 2024. Gall y cynnwys a'r modiwlau newid.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiant twristiaeth? Hoffech chi ddechrau gyrfa lwyddiannus fel rheolwr?
Mae'r cwrs hwn yn cynnig llwybr Addysg Uwch galwedigaethol. Cewch ennill cymhwyster academaidd a meithrin gwybodaeth a sgiliau i weithio yn y diwydiant twristiaeth, tra hefyd yn datblygu'ch sgiliau fel rheolwr.
Mae modiwlau yn cynnwys:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
- Agweddau Byd-eang ar Dwristiaeth
- Cyflwyniad i Ddiwydiant Teithio a Thwristiaeth y Deyrnas Unedig
- Y Diwydiant Mordeithiau
- Cyllid Busnes
- Rheoli Gwybodaeth
- Marchnata ac Arloesi
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
- Rheoli Adnoddau Dynol
- Rheoli Cynadleddau a Digwyddiadau
- Twristiaeth Fusnes
- Twristiaeth Seiliedig ar Brofiadau
- Effeithiau Twristiaeth
- Dulliau Ymchwilio
Gofynion mynediad
Gofynion ieithyddol:
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Saesneg neu Gymraeg, iaith gyntaf, neu gymhwyster cyfwerth
- Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
- Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)
Gofynion academaidd:
- O leiaf 80 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster Lefel 3, gan fod wedi llwyddo fel arfer mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, Diploma Estynedig BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
- Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Gweithdai a gwaith ymarferol
- Tiwtorialau
- Siaradwyr gwadd
- Dysgu myfyriwr ganolog
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.
Amserlen
- Llawn amser: 2 flynedd, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 3.30 pm)
- Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 4.00 pm)
Ffioedd
Cymorth Ariannol
Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- Yn ystod y rhaglen, anogir myfyrwyr i ddod yn aelodau o gyrff proffesiynol a all gael costau ychwanegol. Dylai myfyrwyr gyllidebu tua £50 am hyn.
- Gall costau ychwanegol gynnwys cymryd rhan mewn ymweliadau preswyl a dylai myfyrwyr gyllidebu tua £250 am hyn.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Gwybodaeth am fodiwlau
Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau i'w gweld yn yr adran Information Gwybodaeth Ychwanegol am y Campws / Gwybodaeth am y Cwrs '.
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Graham Jones (Rhaglen Arweinydd): jones5g@gllm.ac.uk
Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Ar y cwrs cewch eich asesu drwy ddulliau amrywiol, er enghraifft drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Portffolios unigol
- Traethodau
- Adroddiadau
- Dyddiaduron adfyfyriol
- Astudiaethau achos
- Cyflwyniadau
- Asesiadau i'w gwneud mewn amser penodol (gan a heb ddefnyddio llyfrau)
- Gwaith ymarferol
- Gwaith grŵp
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Bydd cwblhau'r Radd Sylfaen hon yn llwyddiannus yn rhoi i chi'r cyfle i fynd ymlaen i gwblhau cwrs BA (Anrh) mewn Rheoli ym maes Lletygarwch.
Bydd rhai yn dewis dechrau ar yrfaoedd newydd yn y diwydiant twristiaeth, neu'n ennill cyfrifoldebau ychwanegol a statws uwch yn eu sefydliadau presennol.
Gall gyrfaoedd yn y diwydiant twristiaeth olygu rhoi gwasanaethau i ymwelwyr, neu weithio i sefydliadau sy'n hyrwyddo twristiaeth leol, cyfleusterau arddangos a chynadledda, atyniadau twristaidd, y sector awyr agored, canolfannau corfforaethol a chanolfannau hamdden, gwestai neu'r diwydiant arlwyo.
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Agweddau Byd-eang ar Dwristiaeth (10 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw rhoi golwg i chi ar dwf ac amrywiaeth anhygoel twristiaeth fyd-eang. Bydd yn canolbwyntio ar gyrchfannau, rhanbarthau a chyfandiroedd, niferoedd yr ymwelwyr yn awr ac yn y gorffennol a pha dueddiadau sy'n cael eu rhagweld at y dyfodol. Yn ogystal, edrycha'r modiwl ar deipoleg twristiaid, ffactorau cymhelliant a nodweddion a all gyfrannu at y dewis o gyrchfan. (Aseiniad Ysgrifenedig 100%)
Cyflwyniad i Ddiwydiant Teithio a Thwristiaeth y Deyrnas Unedig (10 credyd, craidd):
Nod y modiwl hwn yw rhoi golwg gyffredinol ar y Diwydiant Teithio a Thwristiaeth yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig. Dechreuir drwy nodi a diffinio termau allweddol, cyn mynd ymlaen i esbonio rolau a chyfrifoldebau'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol yng nghyd-destun y diwydiant teithio a thwristiaeth, a phrif elfennau'r cydweithio sy'n digwydd rhyngddynt. (Cyflwyniad 100%)
Y Diwydiant Mordeithiau (20 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw meithrin ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r diwydiant mordeithiau byd-eang. Bydd yn olrhain datblygiad y sector gan edrych ar sut mae mynd ar fordaith, profiad oedd ar un adeg yn cael ei ystyried yn brofiad elitaidd ac arbennig, erbyn hyn yn datblygu'n fwy o wyliau i'r farchnad dorfol a'r sector sy'n tyfu gyflymaf yn y diwydiant twristiaeth. Bydd y modiwl yn defnyddio nifer o astudiaethau achos i edrych ar ffactorau cymhelliant a pham fod pobl yn dewis mynd ar fordaith. Edrychir ar y gwahanol fathau o fordeithiau a gynigir gan gwmnïau, yn cynnwys y pecynnau a'r gwibdeithiau sydd ar gael. Trafodir swyddi ar y tir ac ar y môr, yn ogystal â pha mor eithriadol o bwysig yw iechyd a diogelwch ar long bleser. (Aseiniad Ysgrifenedig 50%, Cyflwyniad Grŵp 50%)
Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1: Cynllunio Gyrfa (20 credyd, craidd)
Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gyflawni nifer o dasgau'n ymwneud â chyflogadwyedd er mwyn cynyddu eu cyfle o gael swydd. I wneud hyn mae myfyrwyr yn adfyfyrio ar eu dysgu a'u datblygiad eu hunain, a thrwy'r broses hon maent yn meithrin gwell dealltwriaeth o'u diddordebau, eu sgiliau a'u priodoleddau eu hunain yng nghyd-destun gyrfaoedd a phrofiadau gwaith ac adnabod beth sy'n bwysig iddynt o ran gwneud penderfyniadau gyrfaol effeithiol. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o'r hyn sydd angen iddynt ei wneud i lwyddo yn y farchnad swyddi, ac i adnabod yr adnoddau, y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fod yn gyflogadwy. (CV a Llythyr Cais 10%, Cynllun Gweithredu 10%, Diwrnod Gwerthuso 30%, Adfyfyrio 50%)
Cyllid Busnes (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r cysyniadau a'r egwyddorion sy'n hanfodol i gyfrifyddu a chyllid. Bydd yn canolbwyntio ar ddod i ddeall cysyniadau ac egwyddorion allweddol cyfrifyddu ariannol er mwyn gallu dehongli datganiadau ariannol. Bydd y pwyslais ar hanfodion cyfrifyddu ariannol a dechreuir trwy gyflwyno myfyrwyr i gysyniadau a thermau cyfrifyddu a chyllid. Yna symudir ymlaen at dechnegau cyfrifyddu a rheoli cyllid a bydd hyn yn cynnwys cynhyrchu datganiadau ariannol fel datganiadau incwm, mantolenni, a datganiadau a rhagolygon llif arian. Caiff y wybodaeth ei defnyddio i alluogi'r myfyrwyr i ddehongli gwybodaeth ariannol a gwella ansawdd penderfyniadau trwy ddefnyddio cymarebau ariannol. (Arholiad Llyfr Agored 50%, Adroddiad (Unigol) 50%)
Rheoli Gwybodaeth (10 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn, ceir cyflwyniad i'r amrywiol fathau o wybodaeth a geir ym myd busnes a phwysigrwydd Technoleg Gwybodaeth i arferion busnes modern. Edrychir hefyd ar bwrpas systemau gwybodaeth mewn busnesau. Bydd yn hybu dealltwriaeth a'r systemau amrywiol sy'n hanfodol er mwyn gallu gwneud defnydd llawn ac effeithiol o dechnoleg ac yn edrych ar y nifer cynyddol o ddulliau cyfathrebu sydd ar gael i gyflymu'r defnydd o wybodaeth. Yn ogystal, bydd yn dangos dulliau ystadegol effeithiol o reoli gwybodaeth a gwneud penderfyniadau mewn sefydliadau. (Ymchwiliad 50%, Cyflwyniad 50%)
Marchnata ac Arloesi (20 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn, cyflwynir y myfyrwyr i egwyddorion marchnata a phwysigrwydd cynllunio marchnata. Bydd y myfyrwyr yn edrych ar sut i ddefnyddio'r cymysgedd marchnata i sicrhau llwyddiant. Byddant yn dysgu am y damcaniaethau a'r modelau sy'n sail i farchnata ac yn eu cymhwyso i sefyllfaoedd go iawn. (Aseiniad Ysgrifenedig 40%, Adroddiad (Grŵp) 40%, Cyflwyniad 20%)
Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, craidd)
Bydd y modiwl hwn yn meithrin sgiliau astudio'r myfyrwyr gan eu galluogi i feddwl yn feirniadol ac i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig sy'n academaidd gadarn. Bydd yn galluogi'r myfyrwyr i feithrin sgiliau ymchwilio, ysgrifennu ac adfyfyrio. (Aseiniad Ysgrifenedig 100%)
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Rheoli Adnoddau Dynol (20 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddeall sut mae adnoddau dynol ac adnoddau yn cael eu rheoli a'u datblygu mewn sefydliad. Bydd yn trafod swyddogaethau a gweithrediadau allweddol Rheoli ym Maes Adnoddau Dynol yn ogystal â sut maent yn cyfrannu at gyflawni nodau sefydliadol. Bydd myfyrwyr yn edrych ar brosesau recriwtio, dewis a meithrin doniau a sgiliau mewn sefydliad, a'r cysylltiad rhwng perfformio a gwobrwyo mewn cyd-destun cyfoes. (Aseiniad Ysgrifenedig 100%)
Rheoli Cynadleddau a Digwyddiadau (20 credyd, gorfodol):
Bydd y modiwl hwn yn meithrin dealltwriaeth myfyrwyr o'r amrywiaeth, y protocolau a'r gweithrediadau sy'n sylfaenol i'r sector rheoli cynadleddau a digwyddiadau. Datblygir a defnyddir sgiliau fydd yn ystyried y cynllunio cyfannol a'r ffactorau gweithrediadol sydd eu hangen i ddiwallu anghenion cwsmeriaid. (Adroddiad 40%, Astudiaeth Achos 60%)
Twristiaeth Fusnes (10 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn yw meithrin diddordeb myfyrwyr mewn twristiaeth fusnes ac esbonio mai un agwedd yn unig ar y diwydiant twristiaeth yw twristiaid hamdden. Mae Twristiaeth Fusnes wedi datblygu'n un o sectorau mwyaf proffidiol y diwydiant teithio a thwristiaeth, yn enwedig gan fod teithwyr busnes yn dueddol o wario mwy o arian na theithwyr hamdden. Mae Teithio Cymhellol Corfforaethol a Lletygarwch Corfforaethol ill dau yn feysydd sy'n tyfu. Maent yn arfau busnes a gynlluniwyd i newid ymddygiad cwsmeriaid er mwyn gwella morâl, elw, a llif arian cwmni ynghyd â'r ymgysylltiad rhwng gweithwyr a chwsmeriaid. Tynnir sylw at nifer yr asiantaethau arbenigol sy'n cynnig cyflogaeth yn y maes hwn. Mae arddangosfeydd yn rhan eithriadol o bwysig o weithgareddau marchnata'r rhan fwyaf o fusnesau. Cânt eu defnyddio i dynnu sylw at gynnyrch a gwasanaethau, ac maent yn bwysig i fusnesau teuluol bach yn ogystal â chwmnïau mawr amlwladol. (Aseiniad Ysgrifenedig 100%)
Twristiaeth Seiliedig ar Brofiadau (20 credyd, gorfodol):
Nod y modiwl hwn rhoi ymwybyddiaeth i fyfyrwyr o sut mae Twristiaeth Seiliedig ar Brofiadau'n cynnig cyfleoedd newydd yn y diwydiant twristiaeth a sut mae busnesau twristaidd yn defnyddio hyn i ddatblygu ac ehangu eu marchnad. Edrycha ar yr angen i ganolbwyntio ar ddatblygu a rheoli profiadau cofiadwy sy'n ennyn diddordeb ymwelwyr. Gall y profiadau hyn fod yn bersonol, yn synhwyraidd a bod a'r gallu i greu cysylltiadau ar lefel emosiynol, ffisegol, ysbrydol a/neu ddeallusol - gan arwain at ymweliadau pellach a hyrwyddo llafar. Caiff myfyrwyr gyfle i astudio ac i ymchwilio i brofiadau go iawn a fwriadwyd i gysylltu teithwyr â lleoedd, pobl a diwylliannau arbennig, yn lleol ac yn rhyngwladol. (Aseiniad Ysgrifenedig 50%, Cyflwyniad 50%)
Effeithiau Twristiaeth (10 credyd, craidd):
Yn y modiwl hwn, edrychir ar natur a daearyddiaeth effeithiau twristiaeth fyd-eang. Trafodir y damcaniaethau sy'n gysylltiedig ag effeithiau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol twristiaeth gan nodi'r angen am strategaethau newydd a fydd yn gwneud twristiaeth yn gynaliadwy yn y tymor hir, tra hefyd yn darparu rhagor o fanteision i gymunedau lleol ac yn gwneud cyn lleied â phosibl o ddifrod i'r amgylchedd. (Arddangosfa Grŵp 100%)
Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2: Sgiliau Arwain (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o'r amrywiol bynciau sydd eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth fodern, ac mae'n cyfateb i unedau'r CMI (Chartered Management Institute). Mae hyn yn cynnwys cyflwyno a chyfleu data i gefnogi penderfyniadau, dulliau o reoli unigolion, perfformiad timau a sut i wella perfformiad. (Aseiniadau ysgrifenedig 100%)
Dulliau Ymchwilio (20 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i adfyfyrio a deall natur y cynnig ymchwil, amcanion yr ymchwil, y dulliau a'r trefnau a ddefnyddir i wneud yr ymchwil a sut i wneud y defnydd gorau o feddalwedd ystadegol. (Ymchwiliad 50%, Cyflwyniad 50%)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)
Lefel:
4+5
Maes rhaglen:
- Teithio a Thwristiaeth
Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor
Dwyieithog:
n/a