Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdA) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llangefni)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 2 flynedd (1 ddiwrnod yr wythnos) NEU Rhan-amser: 4 blynedd (0.5 diwrnod yr wythnos). Hefyd ar gael fel modiwlau.

  • Cod UCAS:
    LN54
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdA) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llangefni)

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi cyfle i weithwyr proffesiynol presennol a newydd i astudio ystod o feysydd pwnc sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n rhoi'r cyfle i ddysgwyr ddysgu trwy nifer o wahanol fformatau - darlithoedd, trafodaethau, gwaith grŵp, ymchwil a chyflwyniadau ac fe'i hasesir trwy ystod eang o ddulliau. Nod y cwrs yw bod yn hyblyg o amgylch anghenion dysgwyr p'un a ydynt yn gweithio neu'n dychwelyd i addysg ac mae'n darparu sylfaen ar gyfer cysylltiadau academaidd rhwng theori ac ymarfer ac yn cefnogi dysgwyr i ddod yn ymarferwyr myfyriol a datblygu ystod eang o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer addysg uwch.

Yn Llangefni mae dysgwyr yn dilyn y llwybr Cefnogi Pobl Ifanc ac Oedolion ag Anghenion Ychwanegol.

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn deillio ar ystod eang o gyfleoedd dilyniant i fyfyrwyr. Mae rhai a raddiodd yn ddiweddar bellach yn dilyn gyrfaoedd:

  • yn y sectorau gwirfoddol, statudol a phreifat, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol mewn meysydd fel tai, iechyd, gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a chynhwysiant cymdeithasol.
  • gyda chyflogwyr preifat a chyhoeddus ym maes Iechyd neu Ofal Cymdeithasol, gan gynnwys y GIG, Hosbisau, Cartrefi Gofal ac asiantaethau Gofal Cartref.
  • mewn sefydliadau fel y Gwasanaeth Carchardai, SOVA, NCH (Elusen y Plant) a Shelter. Mae'r sefydliadau hyn yn gweithio ac yn recriwtio yng Ngogledd Cymru.

Bydd rhai dysgwyr yn mynd ymlaen i ddilyn y llwybr BSc mewn Nyrsio.

Mae'r cwrs hefyd y sylfaen gadarn cyn mynd ymlaen i ddilyn cwrs Gradd BA (Anrh), fel y cwrs BA (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r cwrs BA (Anrh) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Polisïau Cymdeithasol), yng Nghrŵp Llandrillo Menai.

Bydd cwblhau rhaglen BA yn llwyddiannus yn ei dro'n agor y drws i ddilyn rhaglenni ôl-radd mewn meysydd fel Gwaith Cymdeithasol, Polisïau Cymdeithasol, Seicoleg ac Addysgu, yn ogystal â'r Dystysgrif Addysg i Raddedigion.

Bydd rhai dysgwyr yn parhau i weithio drwy gydol y rhaglen ac yn symud ymlaen i swyddi rheoli neu arwain, neu i swyddi uwch, yn eu gweithle.

Ffioedd

Ewch i'r dudalen Cymorth Ariannol a Chyllid am fwy o wybodaeth.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau Ychwanegol

Bydd gofyn i'r myfyriwr dalu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r cwrs. Gall y rhain gynnwys costau sy'n gysylltiedig â'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, teithio yn ôl ac ymlaen i leoliadau profiad gwaith, teithiau maes, dillad addas ar gyfer gwaith/profiad gwaith, cyfrifiadur personol a chyswllt WiFi, teithio i'r coleg, argraffu a deunyddiau swyddfa.

Ysgoloriaeth Cymhelliant 2022-2023 Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau: Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, neu am gymorth i lenwi'r cais, mae croeso i chi gysylltu â Swyddogion Cangen Grŵp Llandrillo Menai ar - colegcymraeg@glllm.ac.uk.

Gwybodaeth am fodiwlau

Mae gwybodaeth fanylach am fodiwlau i'w gweld yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol am y Campws / Cwrs.'

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Gofynion mynediad

Gofynion academaidd:

  • Cymwysterau Lefel 3 perthnasol (64 pwynt UCAS)
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/ Saesneg (neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol cywerth). Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
  • Gall ymarferwyr profiadol gofrestru ar y rhaglen os oes ganddynt gymhwyster NVQ3 neu gymhwyster cywerth.

Caiff y rhai nad oes ganddynt gymwysterau academaidd eu hystyried ar sail unigol, yn unol â rheoliadau Grŵp Llandrillo Menai.

Gofynion ieithyddol:

  • Yn siarad Cymraeg/Saesneg fel mamiaith, ynghyd â chymhwyster sy'n cyfateb i TGAU gradd C/4 neu uwch
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau fod wedi'u dysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon TOEFL 525 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 500), neu IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon TOEFL 550 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 525), neu IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gellir ystyried mynediad uniongyrchol i Lefel 5 yn achos ymarferwyr profiadol sydd eisoes wedi ennill 120 credyd lefel 4, NVQ lefel 4 neu ddyfarniad cywerth mewn maes pwnc priodol. Bydd hwn yn llwybr dilyniant dewisol i rai sydd wedi ennill Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Arferion Gofal Iechyd.

Yn ogystal, bydd gofyn i fyfyrwyr fodloni'r meini prawf a ganlyn:

  • Mae gofyn i ymgeiswyr fod yn ymarferwyr cyfredol mewn maes perthnasol, neu fod yn barod i fynd ar brofiad gwaith mewn maes perthnasol yn ystod y cwrs. Ar Lefel 4 a Lefel 5, rhaid i bob myfyriwr gwblhau o leiaf 75 awr o brofiad gwaith/cyflogaeth.
  • Rhaid i bob ymgeisydd ddod i gyfweliad er mwyn penderfynu a yw'n addas ar gyfer y cwrs a sicrhau ei fod yn llawn ddeall gofynion y rhaglen a'r ymrwymiad sy'n angenrheidiol.
  • Caiff ymgeiswyr eu derbyn ar sail eu cymwysterau academaidd blaenorol, y gwaith a'r profiad gwaith perthnasol a gawsant, a'u haddasrwydd o ran lleoliadau gwaith ac astudiaethau academaidd.
  • Rhaid i ymgeiswyr allu cael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, heb droseddau a fyddai'n eu hatal rhag gweithio yn y sector

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu'n ddwyieithog drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Portffolios Unigol
  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Arholiad amlddewis
  • Adolygiadau o lenyddiaeth
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniad

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen

  • Llawn amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (Diwrnod Hir 9:30yb hyd at 20:00yh)
  • Rhan-amser: 4 blwyddyn, 0.5 diwrnod yr wythnos

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu'n ddwyieithog drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Portffolios Unigol
  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Arholiad amlddewis
  • Adolygiadau o lenyddiaeth
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniad

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Mae'r cwrs yn cynnig nifer o ddewisiadau o ran dilyniant, yn dibynnu ar eich nodau personol.

Os ydych yn dechrau neu eisoes yn gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, gofal plant neu bolisi cymdeithasol, bydd ennill gradd sylfaenol yn arddangos sgiliau lefel uchel, ac yn rhoi hwb neu hyrwyddo eich cyflogadwyedd. Byddwch yn gallu chwilio am waith mewn amrywiaeth o gyd-destunau yn y sector cyhoeddus a phreifat, gyda'r posibilrwydd o gyfrifoldebau goruchwylio neu reoli.

Drwy gwblhau'r radd yn ddwyieithog, gan ddangos eich bod yn gallu gweithio'n effeithiol mewn gweithle dwyieithog, bydd gennych well siawns o gael gwaith yng Nghymru.

Os ydych yn newydd i faes iechyd a gofal cymdeithasol, byddwch wedi meithrin gwybodaeth academaidd a phrofiad ymarferol, a fydd yn hwb mawr i'ch cyflogadwyedd.

Os ydych am barhau â'ch addysg, mae'n bosibl y gallwch fynd ymlaen i astudio ar Lefel 6 a chwblhau Gradd Anrhydedd, fel gradd BA (Anrh) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gwybodaeth campws Llangefni

Yn ystod y degawd neu ddau ddiwethaf, mae'r gwaith a wneir ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, gofal plant a pholisïau cymdeithasol wedi cael cryn sylw gan y cyhoedd, academyddion a'r cyfryngau. Mae pwysigrwydd y maes hwn wedi tanlinellu'r angen am weithwyr medrus ac addysgedig, sydd â dealltwriaeth eang a thrylwyr o theori yn ogystal â'r gwaith ymarferol.

Bydd y modiwlau Lefel 4 a 5 yn eich helpu i ddiwallu'r angen hwn drwy barhau i gyfrannu i weithlu sy'n datblygu i fod yn fwyfwy proffesiynol ac uchel ei barch. Byddwch yn ehangu'ch dealltwriaeth o'r sector a'r modd y caiff ei reoli, gan ganolbwyntio ar faterion ac arferion cyfredol. Byddwch hefyd yn edrych ar y gwerthoedd craidd sy'n sail i'r modd y rheolir yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â materion strategol sy'n cael effaith yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae'r cyswllt rhwng theori, profiad ymarferol a gwaith proffesiynol yn ganolog i'r cwrs, a bydd eich astudiaethau'n sail i'ch arferion gweithio ac yn eu cyfoethogi. Caiff amrediad eang o bobl sy'n gweithio ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant a pholisïau cymdeithasol brofiad addysgol gwerthfawr ar y cwrs. Bydd y modiwlau hyn yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy a phroffesiynol, gan eich helpu i ddatblygu'ch gyrfa.

Gwybodaeth am y Modiwlau

Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol, sydd ar gael i bob myfyriwr rhan-amser, llawn-amser neu ar sail modiwl yn unig.

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Mae yna fodiwlau dewisol sy'n effeithio ar deitl y dyfarniad, a fydd yn ymddangos ar y dystysgrif ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus. Nodir yr opsiynau hyn mewn cromfachau wrth ymyl teitlau'r modiwlau isod i ddangos a ydynt yn arwydd o'r tri theitl canlynol:

  • FdA Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • FdA Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Polisi Cymdeithasol)
  • FdA Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cefnogi Pobl Ifanc ac Oedolion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol)

Modiwlau Lefel 4

Cyfathrebu (10 credyd, gorfodol)

Pwrpas y modiwl hwn yw edrych ar bwysigrwydd cyfathrebu wrth weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau ym maes Iechyd, gofal cymdeithasol a lles. Caiff y myfyrwyr gyflwyniad i amrywiaeth o fodelau cyfathrebu a damcaniaethwyr ym maes cyfathrebu, gan ddysgu sut y gallant eu defnyddio i wella eu harferion gweithio. Hefyd, dadansoddir dulliau cyfathrebu, yn cynnwys cyfathrebu di-eiriau, y gall defnyddwyr gwasanaeth eu defnyddio. Ar ben hynny, astudir y pethau sy'n rhwystro defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol rhag cyfathrebu, gan gynnwys diffyg sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol, ynghyd â'r rhwystrau sy'n deillio o arferion sefydliadau a'r amgylchedd cymdeithasol ehangach.

Asesu:

Aseiniad 1: Cyflwyniad 10 munud lle bydd y myfyrwyr yn nodi amrywiol sgiliau cyfathrebu a ddefnyddiant yn eu gwaith, gan egluro ffyrdd effeithiol o wella'r modd y maent yn cyfathrebu (40%)

Aseiniad 2: Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn chwarae rôl a fydd yn para 10 munud, gan arddangos amrediad o sgiliau cyfathrebu a sut i oresgyn pethau sy'n eu rhwystro rhag cyfathrebu ag unigolion penodol (30%)

Aseiniad 3: Bydd y myfyrwyr yn cyflwyno myfyrdod personol ar eu sgiliau cyfathrebu ac yn nodi beth sydd angen ei wella ar gyfer y dyfodol (500 gair) (30%)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1 (20 credyd, craidd)

Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu ac arddangos eu sgiliau yn y gweithle. Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddangos sut y defnyddiant sgiliau sy'n berthnasol i'w swydd neu leoliad er mwyn darparu gwasanaeth effeithiol. Dylid dangos dealltwriaeth o sgiliau o'r fath ynghyd ag ymwybyddiaeth o sut y dylid eu defnyddio. Bydd yn bwysig i'r myfyrwyr ddangos eu bod yn deall eu gwaith eu hunain drwy adfyfyrio a dangos yn glir sut y gellir defnyddio adfyfyrio i wella arferion er mwyn datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol.

Asesu:

Aseiniad 1:Drwy gyfrwng asesiad ar-lein a chadw cofnodion, bydd y myfyrwyr yn casglu tystiolaeth o nifer o sgiliau gweithio, gan gwblhau o leiaf 75 awr o brofiad gwaith. Llwyddo neu Fethu.

Aseiniad 2:Drwy gyfrwng asesiad ar-lein, bydd y myfyrwyr yn cyflwyno cyfres o adfyfyrdodau ysgrifenedig ar eu harferion gwaith ac yn llunio cynllun gweithredu ar gyfer eu datblygiad yn awr ac yn y dyfodol (100% 3,000 gair).

Cyflwyniad i Iechyd Meddwl (20 credyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn, caiff y myfyrwyr gyflwyniad i faterion a chysyniadau pwysig sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ac i ddatblygiadau mewn dulliau o ymdrin ag iechyd meddwl. Astudir iechyd meddwl, yn cynnwys yr hanes sy'n gysylltiedig â'r maes. Edrychir ar wasanaethau iechyd meddwl, yn cynnwys eu heffeithiolrwydd a'r pethau sy'n rhwystro pobl rhag cael mynediad iddynt.

Asesu:

Aseiniad 1: Drwy gyfrwng aseiniad ysgrifenedig, bydd y myfyrwyr yn dynodi natur hanesyddol a chyfoes amrediad o gyflyrau iechyd meddwl (1200 gair, 40%)

Aseiniad 2: Drwy gyfrwng dwy astudiaeth achos fechan, bydd y myfyrwyr yn egluro effeithiau posibl amrediad o gyflyrau iechyd meddwl ar unigolion. Bydd y myfyrwyr hefyd yn nodi'r rhwydweithiau cefnogi cyfredol sydd ar gael (1200 gair, 40%)

Aseiniad 3: Bydd y myfyrwyr yn rhoi cyflwyniad (10 munud) ar boster academaidd sy'n dadansoddi ymateb cyfoes i iechyd meddwl, gan sôn am wasanaeth a pholisi (20%)

Diogelu (20 credyd, gorfodol)

Yn y modiwl hwn, eir i'r afael â deall y gwahaniaeth rhwng y cysyniad o ddiogelu pobl ifanc ac oedolion agored i niwed a'r cysyniad o amddiffyn oedolion agored i niwed mewn lleoliadau addysg a lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y modiwl, ceisir egluro a diffinio diogelu, trafod cyd-destunau pontio, rolau a chyfrifoldebau, gweithdrefnau a phrotocolau, cymryd risgiau cadarnhaol, deddfwriaeth, cyfrifoldeb ac atebolrwydd unigolion, pethau sy'n atal asiantaethau rhag cyd-weithio, effaith datgelu camdriniaeth a goblygiadau posibl i bawb sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad, yn cynnwys yr unigolyn, y gofalwr, y rhieni a rhagor. Bydd y modiwl yn canolbwyntio hefyd ar arferion gweithio diogel, atgyfeiriadau a chategorïau cam-drin, ynghyd ag ystyriaethau ehangach.

Asesu:

Aseiniad 1: Drwy ddefnyddio astudiaeth achos berthnasol, bydd y myfyrwyr yn edrych ar bryderon ynghylch diogelu o safbwynt unigolyn sy'n defnyddio gwasanaethau ac yn egluro ymatebion ymarferol posibl (2,000 gair, 60%)

Aseiniad 2: Bydd y myfyrwyr yn sefyll arholiad ar-lein er mwyn dangos eu hymwybyddiaeth o faterion diogelu o safbwynt eu hadnabod, rhoi gwybod amdanynt a'u rheoli (40%)

Hyrwyddo Cymorth Gweithredol - Llwybr ADY (20 credyd, craidd)

Bydd y modiwl hwn yn edrych ar ystyr ‘cymorth gweithredol’ a beth mae hynny’n ei olygu i’r oedolyn a’r person ifanc ag ADY.

Traethawd 60%

Cyflwyniad 40%

Deall a chefnogi ADY

Bydd y modiwl hwn yn edrych ar y term ADY a hefyd y gwahanol fathau o ADY a all olygu bod angen cymorth ar oedolion a phobl ifanc.

Portffolio 100%

Dulliau Ymchwilio a Sgiliau Astudio (10 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau astudio'r myfyrwyr, eu galluogi i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig academaidd cadarn, cyflwyno sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwilio sylfaenol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau ysgrifennu academaidd, i ddefnyddio confensiynau academaidd, i chwilio am wybodaeth, i adfyfyrio ac i reoli a rhoi trefn ar eu gwaith.

Asesu:

Bydd portffolio unigol yn cynnwys sawl tasg y mae gofyn eu cwblhau a'u cyflwyno ar wahân. Mae'r rhain yn cynnwys ymarferion cyfeirio (15%), cynllunio ac ysgrifennu traethodau (20%), dadansoddi a gwerthuso traethodau (20%), cyflwyniadau ac adolygu (15%), adborth a chynllunio camau gweithredu (15%) ac ymarferion arddulliau dysgu (15%), gan arddangos ymchwil priodol a sgiliau astudio, ac ysgrifennu academaidd (2,000 gair, 100%) Llwyddo neu Fethu

Modiwlau Lefel 5

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2 (20 credyd, craidd)

Nod y cwrs hwn yw rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddadansoddi gwerth eu dysgu mewn cyd-destunau galwedigaethol a gwaith-benodol. Wrth wneud hynny, bydd gofyn i'r myfyrwyr adfyfyrio ar eu profiadau dysgu, gan ystyried sut y maent wedi gwella eu gwybodaeth a'u sgiliau academaidd a galwedigaethol, eu hunan-barch a'u cyflogadwyedd yn awr ac yn y dyfodol. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i weld y berthynas rhwng eu heffeithiolrwydd cynyddol o ran gwneud amrywiaeth o dasgau yn y gweithle ac mewn gwahanol gyd-destunau a'r wybodaeth a'r sgiliau y maent wedi'u meithrin.

Yn ogystal, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar lunio cynllun datblygu personol a phroffesiynol cynhwysfawr sy'n berthnasol o safbwynt galwedigaethol, ar ôl ystyried y dyfodol. Bydd y cynllun yn cyfeirio at amryw o sgiliau academaidd a galwedigaethol y mae gofyn eu datblygu ar gyfer y dyfodol ac sy'n ymwneud yn benodol â chyd-destunau gwaith a chyflogadwyedd, gan nodi targedau cyraeddadwy. Bydd y cynllun hefyd yn nodi a sefydlu sut y gellir mesur y cynnydd a wneir o ran cyrraedd y targedau a bennwyd.

Asesu:

Portffolio a drefnwyd yn unigol (100%) sy'n cynnwys adroddiadau adfyfyriol ynghyd â chynllun datblygu personol a phroffesiynol. Bydd gofyn i'r myfyrwyr adfyfyrio ar eu datblygiad personol a phroffesiynol a gwneud cysylltiadau rhwng y gweithle a'r modiwlau theori sy'n rhan o'r rhaglen. Bydd yr adroddiad adfyfyriol yn canolbwyntio ar adnabod gwerth y profiad dysgu o ran gwella effeithiolrwydd mewn tasgau penodol yn y gweithle a chyd-destunau gwaith ehangach. Yn y cynllun datblygu personol a phroffesiynol, pennir nodau cyraeddadwy i weithio tuag atynt yn y gweithle a sefydlir dulliau i fesur y cynnydd a wneir o ran cyrraedd y nodau hynny.

Adroddiad adfyfyriol: 2,000 gair, 50%,

Cynllun Datblygu Personol a Phroffesiynol: 2,000 gair, 50%,

Hawliau Unigolion ac Arferion Proffesiynol (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw pwysleisio pwysigrwydd hawliau'r unigolyn wrth ddarparu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles. Dadansoddir hawliau unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau a sut y bydd sefydliadau'n sicrhau eu bod yn parchu'r hawliau hynny wrth weithredu. Mae gwarantu hawliau defnyddwyr gwasanaethau'n ddibynnol ar yr hyn a wna'r gweithwyr proffesiynol; yn hyn o beth, mae arferion moesegol a beirniadol yn bwysig. Yn yr uned, diffinnir a thrafodir arferion beirniadol yng nghyd-destun amrediad o leoliadau iechyd, gofal cymdeithasol a lles, gan ddangos eu pwysigrwydd o ran arferion moesegol, a fydd yn gwella lles a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau.

Asesu:

Aseiniad 1: Traethawd yn trafod pwysigrwydd hawliau defnyddwyr gwasanaethau fel modd o wella eu lles ac yn nodi'r cyd-destun deddfwriaethol y mae sefydliadau'n gweithio ynddo er mwyn hyrwyddo hawliau defnyddwyr gwasanaethau (2,500 gair, 60%)

Aseiniad 2: Cyflwyniad (10 munud) ar boster academaidd lle bydd y myfyrwyr yn egluro'r cysyniad 'arferion beirniadol', gan gynnwys y tri maes, mewn lleoliad penodol sy'n gysylltiedig ag iechyd, gofal cymdeithasol neu les, ac sy'n disgrifio'r prif werthoedd a'r foeseg sy'n sail i'r dull (CD 3 a 4) (40%)

Arwain a Rheoli (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n galluogi myfyrwyr i ddadansoddi a gwerthuso dulliau a damcaniaethau cyfoes a ddefnyddir i reoli timau ac unigolion. Dadansoddir effaith rheoli gwael a'r atebion posibl sydd ar gael i ddatrys problemau a hybu arloesedd. Yn ogystal, edrychir ar faterion sy'n ymwneud â gwrthdaro mewn timau a rhwng unigolion, gan nodi datrysiadau posib. Gan ddysgu am ddamcaniaethau ac arferion ym maes rheoli ac am weithio'n effeithiol fel tîm, bydd y myfyrwyr yn meithrin dulliau gweithio a fydd yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau effeithiol i ddefnyddwyr.

Asesu:

Aseiniad 1: Bydd gan y myfyrwyr 20 munud, yn cynnwys amser ar gyfer cwestiynau, i roi cyflwyniad ar wahanol arddulliau arwain, eu heffaith bosibl, y modd y maent yn cymell ac yn goruchwylio, ynghyd â pherfformiad staff sy'n gysylltiedig â'u gweithle (40%).

Aseiniad 2: Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag aseiniad ysgrifenedig sy'n edrych ar ddulliau o fynd i'r afael ag arloesedd a newid wrth weithio mewn tîm (2,500 gair, 60%).

Dulliau Ymchwilio (20 credyd, gorfodol)

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i roi amrediad o sgiliau ymchwilio priodol ar waith wrth astudio iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd gofyn i'r myfyrwyr gael sgiliau o'r radd flaenaf o ran ysgrifennu academaidd a chwilio am wybodaeth a gallu rhoi amrediad o ddulliau ymchwilio dilys ar waith. Bydd y myfyrwyr hefyd yn meithrin dealltwriaeth o foeseg ac yn dysgu sut i ystyried pwysigrwydd moeseg wrth ymchwilio. Bydd y modiwl hefyd yn canolbwyntio ar lunio dadleuon sy'n dal dŵr drwy ddefnyddio dulliau ymchwilio dilys, dadansoddi a gwerthuso.

Asesu:

Cynnig ymchwil sy'n arddangos sgiliau o'r radd flaenau o ran ysgrifennu academaidd a chwilio am wybodaeth gan ddefnyddio amrediad o fethodolegau ymchwilio, datblygu dealltwriaeth o foeseg gan ystyried y cysyniad bod moeseg yn bwysig wrth ymchwilio a chan gryfhau a llunio dadleuon sy'n dal dŵr ac a seiliwyd ar adolygiadau o lenyddiaeth briodol yn unol ag amlinelliad ymchwil (4,000 gair, 100%)

Rheoli Ymddygiadau (20 credyd, craidd)

Bydd y modiwl yn edrych ar y cysyniad o reoli ymddygiad mewn perthynas â chefnogi oedolion a phobl ifanc ag ADY amrywiol.

Asesu:

Cyflwyniad 40%

Astudiaethau Achos 60%

Materion Allweddol ym maes ADY (20 credyd, craidd)

Bydd y modiwl hwn yn edrych yn fanylach ar faterion cyfoes amlycaf ADY, gan gynnwys awtistiaeth, dyslecsia, a dyspracsia, ymhlith eraill.

Asesu:

Ymchwil a Dadansoddiad 100%

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Llangefni

Dwyieithog:

Posib cwblhau 50% o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg a derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Sefydliad dyfarnu