Gradd Sylfaen (FdA) mewn Astudiaethau Plentyndod
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Math o gwrs:Graddau (Addysg Uwch)
- Dull astudio:Rhan amser, Llawn Amser
- Lefel:4+5
- Maes rhaglen:Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
- Hyd:
Llawn amser: 2 flynedd, 2 noson yr wythnos (fel arfer 4.00 - 9.00 pm); Rhan-amser: 4 blynedd, 1 noson yr wythnos (fel arfer 4.00 - 9.00pm)
- Cod UCAS:XL35
- Sefydliad dyfarnu:Prifysgol Bangor
- Dwyieithog:
n/a
Disgrifiad o'r Cwrs
Rydym yn gobeithio ymestyn y cwrs hwn i Goleg Menai Llangefni ar gyfer Medi 2023.
Cliciwch yma i fynegi eich diddordeb
.
Ydych chi'n gweithio gyda phlant, neu'n awyddus i wneud hynny, ac am ddatblygu'ch sgiliau a'ch gwybodaeth? A allai gradd mewn Astudiaethau Plentyndod fod o gymorth i roi hwb i'ch gyrfa?
Mae'r Radd Sylfaen hon yn addas i'r sawl sy'n gweithio neu sydd eisiau gweithio gyda phlant mewn amrywiaeth eang o swyddi. Mae'r rhaglen yn arbennig o addas i'r oedolion hynny sydd ar hyn o bryd yn gweithio neu'n bwriadu gweithio mewn lleoliad blynyddoedd cynnar neu gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 1, 2 neu 3 mewn ysgolion lleol.
Mae'r radd yn adeiladu ar brofiad personol a phroffesiynol ac yn caniatáu i chi feithrin sgiliau uwch a newydd. Mae hefyd yn eich helpu i adfyfyrio a dod i adnabod yn well y sgiliau sydd gennych eisoes.
Mae'r Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod yn dilyn llwybr asesu academaidd a galwedigaethol gyda thasgau dysgu yn y gwaith. Mae'n ofynnol i bob dysgwr naill ai weithio mewn rôl berthnasol neu gwblhau 360 awr neu brofiad gwaith mewn rôl berthnasol yn ystod y rhaglen ac erbyn diwedd lefel pump.
Mae modiwlau yn cynnwys:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
- Datblygiad Plant
- Arferion Cynhwysol ac Arferion sy'n Canolbwyntio ar y Plentyn
- Chwarae a Dysgu
- Diogelu Plant
- Y Plentyn mewn Cymdeithas
- Datblygiad Personol a Phroffesiynol
- Sgiliau Academaidd i Ymarferwyr
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
- Dysgu a Datblygu
- Cefnogi Plant a Phobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Cefnogi Dysgu ac Addysgu
- Arwain ar Waith
- Cyfathrebu a Gweithio ar y Cyd
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.
Gofynion mynediad
Mae'r gofynion mynediad yr un fath i rai sy'n dilyn llwybrau llawn amser a rhan-amser.
Bydd yn rhaid i fyfyrwyr fodloni'r meini prawf a ganlyn:
- Gweithio mewn maes perthnasol ar hyn o bryd neu'n fodlon ac yn addas i fynd ar brofiad gwaith perthnasol yn ystod y cwrs.
Gofynion academaidd:
- Gwneir cynigion ar sail pwyntiau, sef 64 pwynt UCAS o gymhwyster lefel 3 perthnasol ym maes gofal plant.
- l Gall rhai sydd â phrofiad o weithio ym maes gofal plant ddilyn y rhaglen os oes ganddynt gymhwyster NVQ Lefel 3 perthnasol.
Caiff y rhai nad oes ganddynt gymwysterau academaidd eu hystyried ar sail unigol yn unol â rheoliadau GLlM a Phrifysgol Bangor.
Gofynion iaith:
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg Iaith 1af (neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol cyfwerth)
- Ar gyfer ymgeiswyr heb y cymwysterau hyn, bydd angen dangos tystiolaeth o sgiliau llythrennedd ar lefel addas i fodloni gofynion y rhaglen yn llwyddiannus.
TGAU er mwyn hyfforddi'n athro:
Bydd gofyn i'r rhai sy'n bwriadu mynd ymlaen i fod yn athrawon ar ôl cwblhau'r Radd Sylfaen/BA (Anrh) mewn Astudiaethau Plentyndod feddu ar y cymwysterau TGAU perthnasol, neu eu hennill, cyn y gallant wneud cais i ddilyn cwrs ôl-radd.
Lleoliad gwaith:
Cynlluniwyd y rhaglen hon i ymateb i agenda Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod rhaglenni Addysg Uwch yn rhoi i'r sawl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc y sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen arnynt i ddarparu 'gofal o ansawdd' a 'gweithlu medrus'.
Mae'r Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod yn dilyn llwybr asesu academaidd a galwedigaethol gyda thasgau dysgu yn y gwaith. Mae'n ofynnol i bob dysgwr naill ai weithio mewn rôl berthnasol neu gwblhau 360 awr neu brofiad gwaith mewn rôl berthnasol yn ystod y rhaglen ac erbyn diwedd lefel pump.
Rhaid cael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a dim troseddau a fyddai'n eu hatal rhag gweithio yn y sector.
Mae angen tystlythyr i sicrhau bod gan y dysgwr leoliad gwaith neu oriau cyflogaeth perthnasol.
Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.
Cyflwyniad
Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Darlithoedd
- Tiwtorialau
- Siaradwyr gwadd
- Trafodaethau grŵp
- Ymchwilio'n annibynnol
- Dysgu myfyriwr ganolog
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.
Amserlen:
Llawn amser: 2 flynedd, 2 noson yr wythnos (fel arfer 4.00 - 9.00 pm); Rhan-amser: 4 blynedd, 1 noson yr wythnos (fel arfer 4.00 - 9.00 pm)
Ffioedd
Ewch i'r dudalen Cymorth Ariannol a Chyllid am fwy o wybodaeth.
Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:
- Gofyniad DBS
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Cyswllt:
Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:
Sam Ellis (Rhaglen Arweinydd): ellis1s@gllm.ac.uk
Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk
Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk
Asesiad
Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Traethodau
- Cynlluniau gweithgaredd
- Arsylwadau
- Portffolio sgiliau
- Cynnig ymchwil
- Cyflwyniadau poster
- Cyflwyniadau llafar unigol a grŵp
- Myfyrdodau
- Dadansoddi astudiaethau achos
Adborth
Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.
Dilyniant
Mae cwblhau'r cwrs hwn yn cynnig cyfleoedd i wella eich gyrfa mewn amrywiaeth o feysydd yn ymwneud â chymorth dysgu i blant. Cewch eich paratoi ar gyfer dyrchafiad, ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb yn eich swydd bresennol neu newid gyrfa.
Efallai y byddwch hefyd yn dewis symud ymlaen i Lefel 6 a chwblhau'r radd BA (Anrh) mewn Astudiaethau Plentyndod.
Addysgu (cynradd uwchradd ac Addysg Bellach) - nid yw'r rhaglen hon yn arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) ond gall rhoi cyfle i raddedigion symud ymlaen at SAC trwy Dystysgrif Addysg i Raddedigion neu lwybr dyfarnu SAC arall
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Mae'r Radd Sylfaen hon yn cynnig addysg i bobl sy'n gweithio ym maes astudiaethau plentyndod yn barod, mewn amrywiaeth o rolau ffurfiol ac anffurfiol. Mae'n astudio ystod cynhwysfawr o fodiwlau, gan gynnwys meysydd pynciau craidd a meysydd galwedigaethol arbenigol.
Mae'r cwrs wedi'i ddyfeisio i'ch helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa drwy roi hyfforddiant ichi sy'n bwysig i gyflogwyr. Yn anad dim, mae'n rhoi cyfuniad o sgiliau ymarferol a dealltwriaeth academaidd ichi. Mae hyn yn gwella'ch arbenigedd drwy eich helpu i bwyso a mesur eich gwaith proffesiynol yn feirniadol.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu'r sgiliau galwedigaethol sydd eu hangen ar gyflogwyr mewn meysydd Blynyddoedd Cynnar a Chymorth Dysgu, neu lle bynnag y mae dimensiwn plentyndod a chymorth dysgu ar swydd. Byddwch yn adeiladu ar eich sgiliau presennol ac yn ennill cymhwyster cydnabyddedig i gadarnhau eich gallu.
Gwybodaeth Uned
Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Datblygiad Plant (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl yw nodi a disgrifio normau datblygiad plentyn nodweddiadol a chysylltu'r rhain, trwy arsylwi, ag ystyriaeth o anghenion datblygiadol unigol. Bydd yn nodi ac yn diffinio ystod eang o ddamcaniaethau ynghylch datblygiad plant ac yn esbonio sut y cânt eu defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau gofal plant a chymorth dysgu. Yn ogystal, bydd yn nodi ac yn diffinio rôl yr oedolyn wrth gefnogi datblygiad plant. (Arsylwi 100%)
Arferion Cynhwysol ac Arferion sy'n Canolbwyntio ar y Plentyn (10 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl yn dysgu myfyrwyr am hanfodion yr egwyddorion sy'n sail i ddulliau cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y plentyn, gan astudio sut y gall ymarferwyr unigol a sefydliadau ddefnyddio dulliau o'r fath. (Traethawd 100%)
Chwarae a Dysgu (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl yn cynnig sylfaen i fyfyrwyr o ran nodi anghenion chwarae a dewisiadau plant a phobl ifanc, rôl oedolion wrth gynllunio a chefnogi i ddiwallu anghenion chwarae plant a phobl ifanc a dealltwriaeth o bwysigrwydd darparu cwricwlwm sy'n seiliedig ar chwarae. (Cyflwyniad unigol 60%, Cynllun Gweithgaredd 40%)
Diogelu Plant (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r arferion cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol sy'n llywodraethu diogelu plant a phobl ifanc. Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o ddamcaniaethau allweddol a themâu cyfredol o fewn yr agenda ddiogelu gyfredol. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn meithrin gwybodaeth am egwyddorion ac arferion diogelu plant a phobl ifanc, gan gyfeirio'n benodol at sut a pham y mae'r arfer o adrodd a chofnodi cam-drin plant yn hollbwysig o mewn lleoliadau plant a dysgu. (Traethawd 60%, Cyflwyniad grŵp 40%)
Y Plentyn mewn Cymdeithas (20 credyd, gorfodol)
Rhoi cyflwyniad sylfaenol i gymdeithaseg a datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth myfyrwyr o gymdeithaseg plentyndod. Anogir myfyrwyr i ddefnyddio nifer o ddamcaniaethau cymdeithasegol, sydd wedi ennill eu plwyf, i ddeall ac i archwilio'n feirniadol faterion sy'n ymwneud â 'phlentyndod' a'r 'plentyn' ac i edrych ar ffyrdd y cafodd plant a phlentyndod eu hystyried yn ystod blynyddoedd a fu. I gloi, caiff myfyrwyr gyfle i astudio'r effaith a gaiff newidiadau cymdeithasol diweddar ar blant a phlentyndod. (Traethawd 50%, Cyflwyniad Unigol 50%)
Datblygiad Personol a Phroffesiynol (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi dysgwyr i ehangu eu gwybodaeth a'u sgiliau sy'n ymwneud ag ymarfer, datblygu atblygedd, gwella hyder a sgiliau gwneud penderfyniadau. Fe'ch anogir i ddatblygu ymreolaeth a chyfrifoldeb personol o fewn eich rôl broffesiynol ac ar gyfer eich datblygiad personol eich hun i'ch galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc; eu dysgu, eu datblygiad a'u lles. (Cyflwyniad 40%, Cofnod Oriau 10%, Dyddiadur Adlewyrchol 50%)
Sgiliau Academaidd i Ymarferwyr (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau astudio'r dysgwyr, gan eu galluogi i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig academaidd cadarn, cyflwyno sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwilio sylfaenol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau ysgrifennu academaidd, i ddefnyddio confensiynau academaidd, i chwilio am wybodaeth, i adfyfyrio ac i reoli a rhoi trefn ar eu gwaith. (Portffolio 100%)
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Dysgu a Datblygu (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr y gallu i ddadansoddi a dehongli ystod eang o ddamcaniaethau ynghylch dysgu. Bydd yn ystyried beth mae addysg gynnar effeithiol yn ei olygu ac yn astudio effaith y damcaniaethau ar arferion. Bydd y myfyrwyr hefyd yn gwerthuso damcaniaethau ymddygiadol ac yn asesu'r modd y maent yn cael eu defnyddio i feithrin ymddygiadau cadarnhaol yn ystod plentyndod cynnar neu mewn lleoliad addysgol. (Traethawd 60%, Astudiaeth Achos 40%)
Cefnogi Plant a Phobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn ogystal â chipolwg ar y gwahanol fathau o ADY a all olygu bod ar blant a phobl ifanc angen cefnogaeth. Bydd y modiwl hwn hefyd yn ystyried pwysigrwydd cydnabod sut y gall plant a phobl ifanc fod yn teimlo, a bydd hyn yn cynnwys cyfeiriadau at iechyd a lles, gwydnwch emosiynol a'r damcaniaethau a'r fframweithiau a ddefnyddir i gefnogi ADY. Yn ogystal, bydd y modiwl hwn yn rhoi cipolwg ar ffactorau allanol a phersonol a all effeithio ymhellach ar y plentyn neu'r person ifanc sydd ag ADY. (Traethawd 50%, Cyflwyniad Unigol 50%)
Cefnogi Dysgu ac Addysgu (20 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn rhoi trosolwg i ddysgwyr o'r polisi a'r strategaeth addysgol gyfredol wrth gydnabod y safbwyntiau addysgol cystadleuol ac asesu'r cysylltiadau â blaenoriaethau addysgol cyfredol. Bydd myfyrwyr yn dehongli modelau, strategaethau, fframweithiau a mentrau sy'n cefnogi addysgu a dysgu a sut y cymhwysir y rhain yn ymarferol. (Aseiniad Ysgrifenedig Unigol 60%, Prosiect Grŵp 40%).
Arwain ar Waith (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi trosolwg i fyfyrwyr o athroniaethau a damcaniaethau ynghylch arwain y gallant eu defnyddio i gyfiawnhau effeithiolrwydd arwain a rheoli mewn lleoliadau plentyndod a chymorth dysgu, a'r effaith y mae arwain yn ei gael ar ansawdd y canlyniadau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. (Dyddiadur Myfyriol 100%)
Cyfathrebu a Gweithio ar y Cyd (10 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn edrych ar wahanol fodelau o weithio mewn partneriaeth ac yn nodi'r gwerthoedd sy'n sail i arferion da cydnabyddedig, yn cynnwys hyrwyddo a chynnal partneriaethau a chael gwared ar rwystrau sy'n atal unigolion rhieni rhag cymryd rhan. Mae hyn yn cynnwys deall y materion sy'n ymwneud ag anableddau dysgu ac iechyd meddwl y gellir dod ar eu traws wrth weithio gyda phartneriaethau teuluol a phroffesiynol. (Traethawd 70%, Cyflwyniad Poster 30%)
Datblygiad Personol a Phroffesiynol (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi dysgwyr i ymestyn eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn perthynas ag ymarfer, gan feithrin eu gallu i adfyfyrio a gwella eu hyder a'u sgiliau gwneud penderfyniadau. Byddwch yn cael eich annog i feithrin annibyniaeth a chyfrifoldeb personol yn eich rôl broffesiynol ac o ran eich datblygiad personol eich hun fel eich bod yn gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc, ac i'w dysgu, eu datblygiad a'u lles. (Astudiaeth Achos 50%, Cofnod o Oriau 50%)
Sgiliau Ymchwilio (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau ymchwilio sy'n berthnasol i astudiaethau plentyndod a chefnogi dysgu. Bydd gofyn i'r myfyrwyr gael sgiliau o'r radd flaenaf o ran ysgrifennu academaidd a chwilio am wybodaeth, a'r gallu i roi amrediad o ddulliau ymchwilio dilys ar waith. Bydd y myfyrwyr hefyd yn meithrin dealltwriaeth o foeseg ac yn dysgu sut i ystyried pwysigrwydd moeseg wrth ymchwilio. Yn ogystal, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar lunio dadleuon sy'n argyhoeddi drwy ddefnyddio dulliau ymchwilio, dadansoddi a gwerthuso dilys. (Llyfryddiaeth wedi'i Anodi 50%, Moeseg Ymchwilio 50%).
Cyfleoedd o ran gyrfa:
- Gofalwr Plant
- Gweithiwr Meithrinfa
- Arwain a Rheoli
- Addysgu
- Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd
- Mentor Dysgu
- Athro Ysgol Gynradd
- Athro Ysgol Uwchradd
- Athro Anghenion Addysgol Arbennig
- Gweithiwr Cymdeithasol
- Cynorthwyydd Addysgu
- Gweithiwr Ieuenctid
- Seicotherapydd Plant
- Nyrs Plant
- Gweithiwr Datblygu Cymunedol
- Cwnselydd
- Seicolegydd Addysgol
- Therapydd Iaith a Lleferydd
A hoffech chi wneud cais am y cwrs hwn?
Llawn Amser
Mae dwy ffordd o wneud cais i ddilyn cwrs addysg uwch llawn amser - un ai trwy UCAS neu'n uniongyrchol i'r coleg.
Gwneud cais trwy UCAS:
Dylech wneud cais trwy UCAS os ydych ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Lefel A, cwrs galwedigaethol Lefel 3 (h.y. BTEC) neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch, neu os hoffech gyflwyno cais i fwy nag un darparwr addysg uwch.
Gwneud Cais i'r Coleg:
Os mai'r coleg yw'ch unig ddewis, neu os ydych eisoes yn meddu ar y cymwysterau neu'r profiad i fodloni gofynion eich cwrs, dylech gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Rhan Amser
Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.
Sefydliad dyfarnu

