Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE) - Saesneg ym myd Busnes

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    5 wythnos, 2 awr yr wythnos

Gwnewch gais
×

Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE) - Saesneg ym myd Busnes

Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n awyddus i ymuno â byd busnes? Ydych chi eisiau cychwyn eich cwmni eich hun?

Dewch atom ni i ddysgu sut i siarad iaith busnes!

Gallwn eich helpu i:

  • Magu hyder ym myd busnes
  • Fuddsoddi yn eich gyrfa
  • Gwella eich sgiliau cyfathrebu

Cwrs 1 - Mewn cyfres o bum gweithdy â thema, byddwch yn dysgu ac yn defnyddio iaith cyfarfodydd, negeseuon e-bost, galwadau ffôn, apwyntiadau, gwneud cysylltiadau busnes a llawer mwy. Bydd cyflwyniadau byr yn eich cyflwyno i gysyniadau ac arferion busnes hanfodol. Mae'r cwrs hefyd yn darparu cysylltiadau ac adnoddau defnyddiol ar gyfer pobl sy'n ystyried cychwyn eu busnes eu hunain.

Cwrs 2 - Mae'r pum sesiwn yn y gweithdy yn dilyn ymlaen o Gwrs 1 trwy ehangu themâu blaenorol yn ogystal â chynnwys pynciau newydd megis trafod, llythyrau ffurfiol, arloesi a mwy. I gymryd rhan yng Nghwrs 2, rhaid ichi fod wedi cwblhau Cwrs 1.

Gofynion mynediad

Canolradd/Uwch canolradd (ESOL Lefel 1)

Cyflwyniad

  • Pum gweithdy gyda gweithgareddau a chyflwyniadau

Asesiad

  • Tasgau ymarferol
  • Adborth parhaus

Byddwch hefyd yn derbyn Tystysgrif Cwblhau ar ddiwedd bob cwrs.

Dilyniant

  • Saesneg ym myd Busnes - Cwrs 2
  • Gwaith
  • Coleg
  • Prifysgol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • ESOL

Dwyieithog:

n/a

ESOL