eDdysgu - CompTIA Network+

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Remote Learning
  • Math o gwrs:
    Proffesiynol
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Lefel:
    3
  • Maes Rhaglenni:
    Cyfrif Dysgu Personol
    TG a'r Cyfryngau
  • Hyd:

    Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu drwy eDdysgu. Mae hyn yn golygu y dylech chi allu cymell eich hun i astudio'n drefnus ac wrth eich pwysau gan ddefnyddio dyfais sydd wedi'i galluogi ar gyfer y rhyngrwyd.

  • Dwyieithog:
    n/a

Disgrifiad o'r Cwrs

CompTIA yw corff ardystio TG niwtral o werthwyr mwyaf y byd. Os ydych chi'n dymuno rhoi hwb ymlaen i'ch gyrfa tuag at seilwaith TG, yna mae'n hanfodol eich bod yn ennill eich ardystiad CompTIA Network+. Mae'r cwrs CompTIA Network+ hwn yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol gan gyflogwyr, felly mae'n gymhwyster delfrydol i ymgeiswyr sy'n gweithio tuag at yrfa yn y sector TG neu Seiberddiogelwch, yn ogystal ag unigolion sydd eisoes yn gweithio fel gweithwyr TG proffesiynol ac sy'n dymuno diweddaru eu gwybodaeth am rwydweithio. Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch wedi datblygu'r sgiliau i reoli, datrys problemau a ffurfweddu rhwydweithiau sefydliad yn hyderus ac yn annibynnol.

Gofynion mynediad

Does dim gofynion ffurfiol, ond bydd angen i chi feddu ar ddiddordeb brwd yn y pwnc.

Os nad oes gennych chi wybodaeth na phrofiad blaenorol ym maes TG, yna rydym yn argymell eich bod yn cwblhau CompTIA A+ cyn y cwrs hwn.

Cyflwyniad

Dysgu Ar-lein

Asesiad

Mae'r cwrs yn cynnwys arholiadau sy'n cael eu goruchwylio ar-lein ac mae angen i chi gael mynediad at ddyfais sydd wedi'i galluogi ar gyfer y rhyngrwyd gyda meicroffon a gwe-gamera.

Dilyniant

Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs hwn, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar Gwrs CompTIA Security+.

Gwybodaeth campws Remote Learning

Mae'r cwrs CompTIA Network+ Swyddogol yn ymdrin â'r canlynol:

  • Cysyniadau Rhwydweithio
  • Seilwaith
  • Gweithrediadau'r Rhwydwaith
  • Diogelwch Rhwydwaith
  • Datrys Problemau Rhwydwaith ac Offer

A hoffech chi wneud cais am y cwrs hwn?

Cyfrif Dysgu Personol