Sgiliau Digidol mewn Busnes
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, HWB Dinbych
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
15 wythnos, 3 awr yr wythnos
Sgiliau Digidol mewn BusnesPotensial (Dysgu Gydol Oes)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae’r cwrs hwn yn addas i ddysgwyr nad ydynt yn gweithio mewn lleoliad busnes ar hyn o bryd ond a hoffent gael swyddi sy'n gofyn am sgiliau TG, e.e. swyddi gweinyddol. Gellir hefyd ei ddefnyddio fel DPP ar gyfer y sawl sydd eisoes yn gweithio ym maes busnes ac sy'n awyddus i wella eu sgiliau.
Mae'r 2 lefel a addysgir yn amrywio o ran lefel y defnydd o becynnau meddalwedd. Mae Lefel 1 yn fwy i'r rhai sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am ddefnyddio'r rhaglenni hyn, a Lefel 2 i'r rhai sydd am loywi eu sgiliau TG neu symud ymlaen.
Gofynion mynediad
Dim.
Cyflwyniad
- Dysgu yn y dosbarth
- Gwaith grŵp
Asesiad
Portffolios gwaith
Dilyniant
Byddai'r cwrs yn ddelfrydol i gael cymhwyster cyn-fynediad ar gyfer unrhyw gwrs Gweinyddu Busnes a gynigir gennym ar Lefel 2/3.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Lefel:
N/A+ 1
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Busnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: