Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llythrennedd Digidol – Canolradd

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llangefni, Caernarfon, Caergybi
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    10 wythnos, 2.5 awr yr wythnos.

    Ar y lefel ganolradd, ceir tri bloc 10 wythnos mewn blwyddyn.

    Un pob tymor, a phob tymor byddwn yn adeiladu ar y sgiliau a ddysgwyd y tymor blaenorol.

    Mae'r dyddiau a'r amseroedd i'w cadarnhau.

Gwnewch gais
×

Llythrennedd Digidol – Canolradd

Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae ein cyfres o gyrsiau llythrennedd digidol yn addas i'r sawl sydd am ddysgu sut i ddefnyddio technoleg mewn amgylchedd hamddenol ac anffurfiol. Cyflwynir y sesiynau gan diwtoriaid cyfeillgar fydd yn cynllunio eu gwersi i fodloni diddordebau'r myfyrwyr, pa un ai a ydynt yn astudio er mwyn datblygu eu gyrfa neu er pleser yn unig.

Byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a ddysgwyd ar y cwrs i ddechreuwyr.

Byddwch yn ehangu eich sgiliau chwilio'r rhyngrwyd gan ddefnyddio technegau chwilio mwy datblygedig. Byddwch hefyd yn dysgu sut i werthuso a dadansoddi'n feirniadol y wybodaeth rydych yn ei chanfod ar-lein.

Byddwch yn defnyddio eich cyfrif e-bost i ddibenion gwahanol, gan ddefnyddio'r rhaglenni sydd ar gael i chi fel gyriant storio i gadw ffeiliau a ffolderi ac adnoddau swyddfa ar-lein.

Mae croeso i chi ddod â'ch dyfais eich hun i'r sesiynau.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos ymrwymiad i gwblhau'r cwrs 10 wythnos.

Efallai y gofynnir i chi gwblhau asesiad cychwynnol i'n cynorthwyo i benderfynu a yw'r cwrs yn addas i chi.

Cyflwyniad

Bydd y dysgu a'r addysgu'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth a rhoddir pwyslais ar ymarfer gartref y sgiliau a ddangoswyd.

Bydd y dulliau cyflwyno'n amrywio ac yn cael eu teilwra i anghenion unigol. Byddant yn cynnwys:

  • cyflwyniadau a chyfarwyddiadau gan eich tiwtoriaid
  • ymchwilio'n annibynnol
  • prosiectau a thasgau aseiniad

Asesiad

Cewch eich asesu ar sail portffolio o'r gwaith a gynhyrchwyd gennych yn ystod y cwrs. Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gallu gweithio'n annibynnol i gwblhau'r tasgau a osodwyd. Cewch eich asesu wrth i diwtor y cwrs arsylwi arnoch yn gweithio yn y sesiynau.

Bydd gofyn i'r holl fyfyrwyr gwblhau Cynllun Datblygu Personol fydd yn dynodi targedau dysgu personol a rhesymau dros wneud y cwrs. Ar ddiwedd pob sesiwn byddwch yn cwblhau adolygiad adfyfyriol o'r sgiliau a ddysgwyd gan nodi anawsterau a llwyddiannau. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau na fyddwch yn symud ymlaen i'r cam nesaf nes y byddwch yn teimlo'n hyderus i wneud hynny.

Dilyniant

  • Llythrennedd Digidol Uwch
  • Dechrau Arni!
  • Rhoi Sglein ar eich Sgiliau
  • Cyflwyniad i Fyd Gwaith
  • Dychwelyd i Ddysgu
  • Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
  • Sgiliau Sylfaenol: Saesneg a Mathemateg

Dwyieithog:

n/a

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Sgiliau Sylfaenol: Saesneg a Mathemateg

Dau fyfyriwr yn gweithio yn y dosbarth