Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cwrs Lefel 4/5 mewn Rheoli ym maes Treftadaeth Ddiwylliannol a Chasgliadau Proffesiynol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Cyflwynir y cwrs yn y gweithle dros gyfnod o 12 mis.

Cofrestru
×

Cwrs Lefel 4/5 mewn Rheoli ym maes Treftadaeth Ddiwylliannol a Chasgliadau Proffesiynol

Oedolion a Rhan-amser

Dysgu o Bell
Cwrs OL: 01/08/26 | Cost: AM DDIM

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Dystysgrif Lefel 4 mewn Rheoli ym maes Treftadaeth Ddiwylliannol a’r Dystysgrif Lefel 5 mewn Rheoli Casgliadau Proffesiynol yn llwybr proffesiynol, ymarferol sy'n wahanol i'r un addysg uwch arferol.

Pam dewis y llwybr hwn?

  • Cefnogaeth cyflogwr: Wedi'i lunio gan arbenigwyr yn y diwydiant i sicrhau eich bod yn dysgu'r union sgiliau y mae amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn chwilio amdanynt.

  • Cyfleoedd amrywiol: Mae’r sector treftadaeth ddiwylliannol yn cynnwys cymysgedd diddorol o lyfrgelloedd, amgueddfeydd, archifau, diwydiannau creadigol a thwristiaeth.

  • Dilyniant cyraeddadwy: Mae'r tystysgrifau hyn yn cynnig llwybr clir i swyddi uwch.

Unedau gorfodol (rhaid cwblhau pob un):

  • Gofalu am Gasgliadau (Lefel 5)

  • Mynediad i Gasgliadau mewn Sefydliadau Treftadaeth Ddiwylliannol a Dealltwriaeth o'r Casgliadau Hyn (Lefel 5)

  • Treftadaeth Ddiwylliannol – Rheoli Casgliadau (Lefel 4)

  • Bodloni Anghenion Defnyddwyr Sefydliadau Diwylliannol (Lefel 4)

Unedau dewisol (rhaid cwblhau un):

  • Cynllunio Busnes ym maes Treftadaeth Ddiwylliannol (Lefel 5)

  • Rheoli Safleoedd a Diogelwch mewn Lleoliadau Treftadaeth Ddiwylliannol (Lefel 4)

  • Sgiliau Arwain a Rheoli'r Gweithlu mewn Sefydliad Treftadaeth Ddiwylliannol (Lefel 4)

  • Cynhyrchu Incwm mewn Sefydliad Treftadaeth Ddiwylliannol (Lefel 5)

Gofynion mynediad

Rhaid i chi fod yn gweithio yn y sector Llyfrgelloedd, Archifau, Amgueddfeydd neu Reoli Cofnodion.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs yn y gweithle. Mae cymorth ar-lein ar gael hefyd trwy system e-bortffolio OneFile.

Asesiad

Asesiad yn seiliedig ar waith/cymhwysedd. Caiff yr unedau eu hasesu drwy gyfrwng portffolio o dystiolaeth a gasglwyd o waith y dysgwr.

Dilyniant

Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs gallech fynd ymlaen i astudio am:

  • Radd Sylfaen (FdA) mewn Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Hyfforddiant rhan-amser

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur