Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau mewn Canolfan Gyswllt

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:
    • Lefel 2: 15 mis
    • Lefel 3: 16 mis
Gwnewch gais
×

Prentisiaethau mewn Canolfan Gyswllt

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r prentisiaethau Canolfannau Cyswllt yn cynnwys cymwysterau cyfredol a hyblyg y gweithir tuag atynt dan arweiniad cyflogwr. Maent yn ateb galw'r cyflogwyr hyn am weithwyr sydd â gwell sgiliau, gan gynnwys sgiliau meddalach fel cyfathrebu, gweithio mewn tîm, sgiliau rhyngbersonol a'r gallu i wella'ch dysgu a'ch perfformiad eich hun.

Pa bynnag ganolfan gyswllt y bydd prentis yn gweithio ynddi, bydd yn dysgu ac yn dod i ddeall y cysyniadau allweddol sy'n gysylltiedig â gweithrediadau canolfan gyswllt, gwasanaeth i gwsmeriaid a sut mae defnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau hyn yn y gweithle.

Yn achos prentis Lefel 2, gallai'r sgiliau hyn gynnwys sgiliau technegol i roi ar waith y dechnoleg cyfathrebu, y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddefnyddio meddalwedd, cyfathrebu â chwsmeriaid, meithrin cysylltiadau â chwsmeriaid a chydweithwyr, datrys problemau, hyrwyddo cynnyrch a/neu wasanaethau, gwerthu pethau, defnyddio sianelau cyfathrebu priodol, cadw cofnodion, casglu adborth gan gwsmeriaid a gweithio mewn tîm.

Yn achos prentis Lefel 3, gallai'r sgiliau hyn gynnwys sgiliau technegol uwch i roi ar waith y dechnoleg cyfathrebu, y wybodaeth a'r sgiliau uwch sy'n angenrheidiol i ddefnyddio meddalwedd, datrys problemau, gwella bodlonrwydd cwsmeriaid, arwain tîm, gwella teyrngarwch cwsmeriaid, casglu a dadansoddi adborth gan gwsmeriaid, ymdrin â chwynion a chynnal gwasanaeth dibynadwy i gwsmeriaid.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond mae profiad mewn Canolfan Gyswllt yn ddymunol.
  • Dylai fod gan brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle
  • Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth