Datrys Rheoli Gwrthdaro yn y Gweithle
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai - Llwyn Brain, Parc Menai, Busnes@LlandrilloMenai - Parc Busnes Llanelwy, Safle cyflogwr
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod - £110
neu
2 hanner diwrnod - £150
×Datrys Rheoli Gwrthdaro yn y Gweithle
Datrys Rheoli Gwrthdaro yn y GweithleCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs yma wedi'i gynllunio i archwilio pob agwedd ar sut i ddatrys gwrthdaro a all godi yn y gwaith.
Pam Dilyn y Cwrs?
Enillwch atebion ymarferol, thechnegau a llyfr gwaith ar sut i ddelio â Rheoli Gwrthdaro yn y gweithle.
Bydd cyfle i gynrychiolwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol gan fabwysiadu: Model Chwe Egwyddor Rheoli Gwrthdaro, er mwyn datblygu sgiliau rheoli gwrthdaro.
Cynnwys Allweddol:
- Diffiniad: Beth yw Rheoli Gwrthdaro
- Nodi'r mathau o wrthdaro a all godi yn y gweithle. Myfyrio ar wrthdaro cadarnhaol a negyddol.
- Ymchwiliwch i pam mae gwrthdaro yn codi yn y gweithle - Cyswllt â damcaniaeth Cymhelliant.
- Dadansoddwch y ffactorau a all achosi gwrthdaro: yn seiliedig ar eich gweithle eich hun: h.y., ymddygiad a chyswllt â damcaniaeth Cymhelliant.
- Adolygu achos posibl gwrthdaro rhyngbersonol sy'n digwydd dro ar ôl tro. Nodi: Gwraidd yr achos.
- Nodi effaith wirioneddol o wrthdaro yn eich gweithle eich hun: Amser, Cost a Llesiant y Tîm.
- Rheoli Gwrthdaro a'r Gyfraith.
- Rhoi ar waith - Chwarae Rôl: Model Chwe Egwyddor Rheoli Gwrthdaro i ddatrys gwrthdaro. Mae hyn yn cynnwys: gwrando, iaith y corff, tawelu, empathi, negodi a chymhwyso Deallusrwydd Emosiynol (Model Goleman), wrth ddelio â Rheoli Gwrthdaro.
- Cwblhau Llyfr Gwaith Rheoli Gwrthdaro, gyda chamau gweithredu ar gyfer datblygiad pellach.
I bwy mae’n addas?
- Goruchwylwyr
- Arweinwyr Tîm
- Rheolwyr Penaethiaid Adran
- Rheolwyr Prosiectau
- Rheolwyr Llinell Gyntaf neu Ganol
- Gweithwyr sy'n Delio â Chwsmeriaid, sy'n dymuno datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth ar sut i ddatrys sefyllfaoedd gwrthdaro yn y gweithle.
Gofynion mynediad
Dim.
Cyflwyniad
Gweithdy rhyngweithiol dan arweiniad tiwtor.
Asesiad
Nid oes asesu ffurfiol
Dilyniant
- Cyrsiau Micro-Ddysgu eraill
- Cyrsiau Rheolaeth a Proffesiynol
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli